Y Wasg

Y Wasg

S4C yn rhannu cipolwg cyntaf ar y ddrama Y Streic Fawr sy'n seiliedig ar un o streiciau hiraf y DU

3 Tachwedd 2026
Mae S4C heddiw wedi datgelu cipolwg cyntaf ar ei drama newydd, Y Streic Fawr, sy’n seiliedig ar un o’r anghydfodau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. 

Mae’r gyfres wedi’i lleoli yng Nghaernarfon a’r cyffiniau, sef canolbwynt yr anghydfod, wedi'i hysgrifennu gan Ffion Dafis, ac wedi'i chyfarwyddo gan Huw Chiswell. 

Bydd y bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar 6 Rhagfyr am 9.00yh, gyda’r gyfres gyfan ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r un dyddiad.  

Mae eleni’n nodi 25 mlynedd ers dechrau’r streic yn ffatri rhannau ceir Friction Dynamics yn 2001. Bu’r awdur Ffion Dafis yn gweithio’n agos gyda rhai o’r streicwyr er mwyn sicrhau bod eu profiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y ddrama dair rhan. 

Yn y prif gast mae Rhodri Trefor (Gwlad yr Astra Gwyn, White Gold, The Indian Doctor) yn portreadu Tomi Jones, a ddechreuodd fel siop steward cyn dod yn swyddog ddaeth yn ddiweddarach yn swyddog llawn amser i Undeb y Transport and General yng Ngogledd Cymru. Mae Gruffudd Glyn (Steeltown Murders, The Martian) yn chwarae rhan Gerald Parry, areithiwr blaenllaw yn y ralïau a oedd yn gysylltiedig â'r streic, tra bod Rhys ap Trefor (Pobol y Cwm, Dal y Mellt, Torchwood) yn portreadu John Davis, a ddewiswyd i gynrychioli'r 86 o weithwyr yn y llys. 

Ymhith aelodau eraill y cast mae Carwyn Jones, Sion Eifion, Emyr Gibson, Catrin Powell, Manon Wilkinson a Betsan Ceiriog, a bydd y gyfres yn archwilio effaith y streic ar weithwyr y ffatri a’u teuluoedd. 

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ffilmio wedi'i wneud yng Nghaernarfon a'r cyffuniau, ac mae rhai o gyn-weithwyr ffatri Ffriction Dynamics wedi cael cyfle unigryw i fod yn actorion cynorthwyol yn y gyfres.  

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Mae’r hanes am yr ymdrech yma am gyfiawnder er wedi lleoli yn y Gogledd, yn un oesol sydd gyffredin i sawl cymuned yng Nghymru. Yr un yw ymdrech y gweithwyr ffatri yng Nghaernarfon ac un y glowyr a gweithwyr dur yng nghymoedd y De a’r Gogledd-Ddwyrain. Mae dycnwch a dyfalbarhad y gymuned yn dal i gael ei drafod hyd heddiw.

"Roedd mor drawiadol, tra ar leoliad y ffilmio eleni fod pobl yn gyrru heibio a chanu cyrn y ceir, yn union fel roeddent wneud dros ugain mlynedd nol. Mae’n hanes sy’n perthyn i heddiw ac mae S4C yn falch fedru rhannu’r stori i Gymru gyfan trwy’r gyfres ddrama bwerus hon."

Dywedodd Llyr Morus o Mojo Productions: 

“Fel un a gafodd ei fagu yng Nghaernarfon, sy’n cofio canu corn wrth basio’r gweithwyr ar y lein a mynd i’r ralïau ar Y Maes, mae cael dweud y stori yma, a’r ffaith bod y gweithwyr wedi ymddiried yn Cynyrchiadau Mojo i wneud hynny’n fraint.  

“Mae’r aberth wnaeth yr 86 o ddynion a merched bum mlynedd ar hugain yn ôl yn anferthol. Arweiniodd yr aberth yna at newid oedd am sicrhau gwell amodau gwaith i weithwyr y dyfodol, felly mae’r diolch yn fawr iddyn nhw. Mae nodi’r hanes yn bwysig ar gyfer addysgu cenedlaethau’r dyfodol - “Ni heddiw, Chi fory”.  

“Hyd heddiw mae effaith y streic i’w weld yng Nghaernarfon gyda ffrindiau, teuluoedd a chymunedau wedi ei chwalu. Mae’n bwysig bod y stori hon yn cael ei dweud yn onest, gyda chydbwysedd a gyda hiwmor, ffraethineb ac angerdd y Cofi.”  

Dywedodd Ffion Dafis, awdur y ddrama: "Ro’n i’n teimlo’n gryf iawn mod i eisiau sgwennu’r ddrama yma i nodi 25 mlynedd ers i griw o Gofis wneud safiad mor ddewr dros eu hawliau a’u dyfodol. Dwi’n gobeithio mod i wedi gwneud cyfiawnder â’u stori, wedi anrhydeddu eu dyfalbarhad ac wedi cyfleu rhywfaint o’r hyn yr oedd y streic yn ei olygu iddyn nhw, i’w teuluoedd ac i’r gymuned gyfan."

Mae Y Streic Fawr yn gynhyrchiad gan Mojo Productions ar gyfer S4C, ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.