
5 Tachwedd 2026
Mae S4C wedi cyhoeddi cyfleoedd newydd am gomisiynau digidol yn ystod cynhadledd flynyddol S4C a TAC.
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi gan Guto Rhun, Comisiynydd Cynnwys Digidol S4C, yn ystod y gynhadledd ddeuddydd sydd eleni’n cael ei chynnal ar 4 a 5 Tachwedd yn Llandudno.
Mae’r darlledwr yn gwahodd cwmnïau cynhyrchu a chrewyr cynnwys i wneud cais am becyn gwerth £200,000 i greu cynnwys gwreiddiol ffurf-fer ar gyfer platfformau cyfryngau cymdeithasol S4C yn ystod blwyddyn ariannol 2027/28.
Mae S4C yn chwilio am gynnwys sydd wedi’i greu yn benodol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gyda cheisiadau i ddangos dealltwriaeth glir o’r gwahanol gynulleidfaoedd ac anghenion pob platfform. Gall y pecyn blwyddyn o hyd gynnwys fformatau rheolaidd, syniadau unigol, cynnwys amserol a fideos wedi’u creu’n benodol ar gyfer digwyddiadau a diwrnodau cenedlaethol.
Mae S4C hefyd wedi rhoi galwad am ffilmiau dogfen ffeithiol gwreiddiol ar gyfer sianel YouTube S4C, gyda’r comisiynau hyn werth hyd at £40,000 yr un. Uchelgais S4C yw creu ffilm sy’n gallu sefyll ar ei thraed ei hun ond sydd â’r potensial i gyrraedd cynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn ehangach.
Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Digidol S4C:
"Wrth ddechrau yn fy rôl fel Comisiynydd Cynnwys Digidol, mae'n gyffrous iawn gallu rhannu nid un, ond dau gyfle gwych am gomisiynau digidol newydd.
"Wrth i S4C wireddu ei strategaeth Mwy Na Sianel Deledu, a symud tuag at ddyfodol digidol-yn-gyntaf, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cwrdd â'n gwylwyr lle maen nhw'n gwylio, gyda chynnwys beiddgar sy'n creu sŵn.
"Megis dechrau mae'r gwaith o ddatblygu ein strategaeth hir-dymor ar gyfer ein comisiynau digidol ar YouTube, ac edrychaf ymlaen at gyd-weithio gyda fy nghyd-gomisiynwyr a'r sector gynhyrchu yng Nghymru i wireddu'r weledigaeth."
Nawr yn ei hail blwyddyn, mae cynhadledd S4C a Theledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn dod â’r darlledwr, y sector gynhyrchu, gweithwyr llawrydd a chwmnïau ynghyd i drafod dyfodol y diwydiant o safbwynt Cymru a’r Gymraeg.
Yn dilyn cynhadledd Dychmygu’r Dyfodol yng Nghaerdydd yn 2025, mae’r gynhadledd eleni, Adlewyrchu Cymru, yn cael ai chynnal yng Ngwesty St George’s, Llandudno.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:
“Mae cynhadledd S4C a TAC wedi sefydlu ei hun yn ddigwyddiad allweddol i'r sector yng Nghymru, gan roi cyfle i ni wrando, rhannu syniadau a llunio'r dyfodol gyda'n gilydd. Eleni, roedd hi’n wych i gael YouTube yn bresennol, wrth i ni ddatblygu perthynas agosach gyda’r llwyfan gwylio poblogaidd er mwyn dod a’r Gymraeg i fywydau gwylwyr sy’n byw a bod yno. Drwy gydweithio'n agos gyda chynhyrchwyr a chrewyr cynnwys, gallwn sicrhau bod straeon Cymru a'r Gymraeg yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd."