Y Wasg

Y Wasg

Datganiad gan S4C

11 Tachwedd 2026

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Mae gan S4C rôl bwysig wrth adrodd straeon sy’n taflu goleuni ar faterion o fudd cyhoeddus. Fodd bynnag, yn dilyn ystyriaeth ofalus, rydym wedi dod i’r casgliad na fyddai’n briodol mynd ymlaen â’r gyfres ddrama Y Pennaeth. Lles y rhai a effeithiwyd gan y digwyddiadau hyn yw ein prif flaenoriaeth. Penderfyniad S4C yw hwn, ac rydym yn ymddiheuro am y gofid a achoswyd. Er parch at breifatrwydd y rhai a effeithiwyd, ni fyddwn yn gwneud sylw pellach.”