Y Wasg

Y Wasg

Tyler yw enillydd Bar Hansh 2026

11 Tachwedd 2026

Mae briciwr sy’n wreiddiol o Ynys Môn wedi’i goroni’n enillydd ail gyfres realiti S4C, Bar Hansh.

Daeth Tyler Owen, 22 oed, sydd bellach yn byw yng Nghonwy, i’r brig wrth i griw o bobl ifanc geisio rhedeg bar Cymreig ar ynys Zante yng Ngwlad Groeg.

Yn ystod y gyfres, roedd yn rhaid i’r cystadleuwyr wynebu amrywiaeth o sialensau a thasgau er mwyn cynyddu’r wobr i hyd at £10,000. Ond roedd tro yng nghynffon y gystadleuaeth, wrth i’r cystadleuwyr bleidleisio i roi’r sac i un o’r criw bob wythnos.

Wrth siarad ar ôl y ffeinal, dywedodd Tyler:

“Dydi o dal ddim wedi setio mewn eto. Nes i ddim mynd mewn iddo fo yn meddwl fyswn i’n curo, jyst am y profiad i ddechrau. Dwi wedi neud ffrindiau am byth, cael profiadau mor dda a chael uffar o laff drwy’r holl beth – a troi allan mai fi ydi’r enillydd!”

Er bod y gystadleuaeth yn llawn heriau, yn ôl Tyler, y peth mwyaf anodd oedd pleidleisio ei gyd-gystadleuwyr allan.

Fe wnaeth hefyd ffurfio cyfeillgarwch agos gyda’i gyd-gystadleuydd Elan yn ystod y ffilmio.

“Mae’r ffrindiau dwi wedi neud sicr yn ffrindiau am byth.

“Allan o’r cast i gyd, fydda’i sicr yn cadw mewn cysylltiad efo Elan. Gwyliau on the horizon mae’n siwr!”

Ar ddiwedd y gystadleuaeth, roedd y wobr yn £7,500 ac mae gan Tyler gynlluniau ar sut i wario’r arian:

“I ddechrau, dwi sicr am bwcio gwyliau arall – siwr o fod efo Elan – cadw ychydig mewn savings, prynu rywbeth neis i fy hun, a rhywbeth neis i’r chwaer hefyd.”

Wrth grynhoi ei siwrne ar Bar Hansh, dywedodd Tyler:

“Nes i gerdded mewn ddim yn gwybod be i ddisgwyl ond dwi’n cerdded allan efo Elan, ffrindiau am byth a lot o cash!”

Cyflwynydd y gyfres oedd yr actor Kevin Williams, oedd yn adnabyddus am chwarae rhan Kelvin Walsh yn Rownd a Rownd am bron i 30 mlynedd.

Wrth gloi’r gyfres, dywedodd Kevin:

“Mae wedi bod yn haf gwych ar Bar Hansh – lot o highs, ac ambell i lows. A digon o chaos yn y canol! Y gwaith drosodd, y shutters lawr ac mae bar hansh drosodd am haf arall.”

Mae Bar Hansh i’w gweld ar YouTube Hansh, S4C Clic a BBC iPlayer.