Cwis Bob Dydd

Cwis Bob Dydd

Cwis Bob Dydd – ap cwis Cymraeg rhad ac am ddim gan S4C.

Yr her? Ateb deg cwestiwn ar hap yn gywir, mor gyflym ag y gallwch!

Gyda chwestiynau’n cwmpasu diwylliant Cymru, trivia, a ffefrynnau cwis traddodiadol, mae Cwis Bob Dydd yma i’ch cadw ar flaenau’ch traed.

Wyt ti’n mynd i ennill un o’n gwobrau tymhorol anhygoel? Wyt ti’n mynd i gyrraedd brig y sgorfwrdd… neu ddod i’r brig ar sgorfwrdd dy grŵp dy hun? Gad i ni weld!

Ar ddiwedd pob gêm, bydd sgoriau ein cystadleuwyr yn cael eu bwydo mewn i sgorfwrdd byw. Bydd y sgôr yn gyfuniad o atebion cywir a pha mor gyflym mae'r chwaraewr wedi eu hateb. I'n cwiswyr mwy cystadleuol, mae opsiwn hefyd i greu grwpiau gyda sgorfwrdd preifat a gwahodd pobl eraill i ymuno yn yr hwyl. Heriwch bobl o'ch ardal leol, cydweithwyr yn y swyddfa, a cwiswyr eraill o bob cwr o Gymru. Dyma gyfle i weld pa aelod o'r grŵp sydd yn y blaen yn y cystadlaethau wythnosol a thymhorol, ac i gadw llygad ar bwy sy'n mynd i gyrraedd brig y sgorfwrdd yn gyntaf hefyd!

Bydd Cwis 2025 ar gael yn ystod misoedd penodol eleni, a dros wyliau'r haf a'r Nadolig hefyd. I'r rhai sydd eisiau dal ati i cwisio pan na fydd y gêm ddyddiol yn fyw, mae modd cystadlu mewn 'gemau byw' yn eu grwpiau preifat. Bydd y nodwedd hon ar gael drwy gydol y flwyddyn, gan gynnig fformat newydd sbon lle mae pob aelod o'r tîm yn wynebu'r un 10 cwestiwn ac yn gorfod ateb y cwis ar yr un pryd! Y cyfan sydd angen gwneud ydy dewis pryd rydych chi eisiau i'r gêm ddechrau, a phwyso 'chwarae'.

A'r peth gorau oll? Mae gwobrau anhygoel i'w hennill bob tymor! Bydd ein chwaraewyr yn derbyn un tocyn i'r raffl am brif wobr y tymor bob tro maen nhw'n ateb y cwis*. Gall gwobrau amrywio o docynnau rygbi rhyngwladol, cynnyrch Cymreig a theclynnau fel tabledi, teledu neu AirPods. Mewn tymhorau blaenorol, mae chwaraewr lwcus wedi cipio gwyliau sgïo i bedwar yn Ffrainc a car.

Bydd pawb sy'n gorffen yn y 200 uchaf ar ddiwedd yr wythnos yn cael cyfle i ennill pecyn nwyddau Cwis Bob Dydd hefyd.

  • 1 Rhagfyr 2025 - 11 Ionawr 2026

    Tymor 9

    Mae’r tymor yma wedi’i noddi gan Adre.

    Mae Adre yn rhoi bocs anrhegion wythnosol i un chwaraewr lwcus, wedi’i ddewis ar hap, sy’n gorffen yr wythnos yn y 200 uchaf ar ein sgorfwrdd. Mae 6 gwobr wythnosol i’w hennill, ac mae yna wobr arbennig ddiwedd y tymor sy’n agored i bawb sy’n chwarae.

    Diolch i Adre am gefnogi Cwis Bob Dydd.

    • 8 Chwefror 2026 - 8 Mawrth 2026

      Tymor 10

      Lawrlwythwch yr ap nawr i gystadlu ac i gyrraedd top ein sgorfwrdd. Chwilia am "Cwis" i lawrlwytho ar iOS neu Android.

      Yr unig gwis dyddiol am ddim yn y Gymraeg, gan S4C.