Cwis Bob Dydd

Cwis Bob Dydd

Mae Cwis Bob Dydd 'NÔL gyda chyfres o dymhorau cyffrous ar gyfer 2025!

Gyda chwestiynau yn cwmpasu ystod eang o bynciau – gan gynnwys cwestiynau cwis traddodiadol, rhai trivia, a chwestiynau am ddiwylliant Cymru – mae Cwis 2025 yn siŵr o'ch cadw ar flaenau eich traed. Yr her? Ateb deg cwestiwn ar-hap yn gywir yn yr amser byrraf posibl!

Ar ddiwedd pob gêm, bydd sgoriau ein cystadleuwyr yn cael eu bwydo mewn i sgorfwrdd byw. Bydd y sgôr yn gyfuniad o atebion cywir a pha mor gyflym mae'r chwaraewr wedi eu hateb. I'n cwiswyr mwy cystadleuol, mae opsiwn hefyd i greu grwpiau gyda sgorfwrdd preifat a gwahodd pobl eraill i ymuno yn yr hwyl. Heriwch bobl o'ch ardal leol, cydweithwyr yn y swyddfa, a cwiswyr eraill o bob cwr o Gymru. Dyma gyfle i weld pa aelod o'r grŵp sydd yn y blaen yn y cystadlaethau wythnosol a thymhorol, ac i gadw llygad ar bwy sy'n mynd i gyrraedd brig y sgorfwrdd yn gyntaf hefyd!

Bydd Cwis 2025 ar gael yn ystod misoedd penodol eleni, a dros wyliau'r haf a'r Nadolig hefyd. I'r rhai sydd eisiau dal ati i cwisio pan na fydd y gêm ddyddiol yn fyw, mae modd cystadlu mewn 'gemau byw' yn eu grwpiau preifat. Bydd y nodwedd hon ar gael drwy gydol y flwyddyn, gan gynnig fformat newydd sbon lle mae pob aelod o'r tîm yn wynebu'r un 10 cwestiwn ac yn gorfod ateb y cwis ar yr un pryd! Y cyfan sydd angen gwneud ydy dewis pryd rydych chi eisiau i'r gêm ddechrau, a phwyso 'chwarae'.

A'r peth gorau oll? Mae gwobrau anhygoel i'w hennill bob tymor! Bydd ein chwaraewyr yn derbyn un tocyn i'r raffl am brif wobr y tymor bob tro maen nhw'n ateb y cwis*. Gall gwobrau amrywio o docynnau rygbi rhyngwladol, cynnyrch Cymreig a theclynnau fel tabledi, teledu neu AirPods. Mewn tymhorau blaenorol, mae chwaraewr lwcus wedi cipio gwyliau sgïo i bedwar yn Ffrainc a car.

Bydd pawb sy'n gorffen yn y 200 uchaf ar ddiwedd yr wythnos yn cael cyfle i ennill pecyn nwyddau Cwis Bob Dydd hefyd.

    • 5 Gorffennaf 2025 - 30 Awst 2025

      Tymor 7

      • 4 Hydref 2025 - 1 Tachwedd 2025

        Tymor 8

        • 29 Tachwedd 2025 - 3 Ionawr 2026

          Tymor 9

          • 7 Chwefror 2026 - 7 Mawrth 2026

            Tymor 10

            Lawrlwythwch yr ap nawr i gystadlu ac i gyrraedd top ein sgorfwrdd. Chwilia am "Cwis" i lawrlwytho ar iOS neu Android.

            Yr unig gwis dyddiol am ddim yn y Gymraeg, gan S4C.