S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Erwyn - Craig Goch y Gamallt

Hyd: 1 awr a hanner

Pellter: 2 milltir / 3.2 cilometr

Dechrau: SH 751 432

Diwedd: SH 745 443

Parcio: Does yna ddim cod post uniongyrchol i'r maes parcio yma, gallwch ffeindio wrth ddilyn y cyfeirnod grid yma: SH 745 424, neu, drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yma o Westy Pengwernm Sgwâr yr Eglwys, Llan Ffestiniog LL41 4PB.

Trowch i'r chwith ar hyd y B4391, a chadwch i'r dde i ymuno â'r A470. Ar ôl gadael Llan Ffestiniog, trowch i'r chwith cyntaf, gyda'r arwyddbost 'Bala B4391'.

Dilynwch yr heol heibio Cwm Cynfal, a throwch i'r chwith tuag at Ysbyty Ifan ar y B4407. Ar ôl 0.3 milltir, fe welwch faes parcio ar eich chwith, parciwch fan hyn ac yna cerddwch ar hyd y B4407 am gwarter awr ac fe welwch draciau ar y chwith, dyma ddechrau'r daith.

Disgrifiad:

Does yna ddim llwybr wedi ei farcio ar y daith yma tan eich bod yn cyrraedd y llwybr. O'r pwynt cychwyn ar y traciau, cerddwch ar draws y Migneint (A) am hanner milltir. Byddwch wedyn yn dechrau dringo'r Graig Goch (B). Ewch yn syth i fyny ac yna ar draws dop y graig am tua hanner milltir arall a byddwch yn cyrraedd copa'r Gamallt. O fan hyn, cerddwch i'r Gogledd Orllewin am 0.2 milltir i gyrraedd copa'r Clochdy.

Parhewch ar hyd y graig, ac yna i lawr rhwng y ddau fynydd gyda'r Graig Goch y Gamallt ar eich chwith, a'r Clochdy ar eich dde, tuag at Lynnau Gamallt (C).

Cerddwch rhwng y ddau lyn, ac fe gyrhaeddwch y Cwt Pysgota' (Ch). Dyma ddiwedd y daith, ac i gyrraedd nôl at ddechrau'r daith, cerddwch i'r De-ddwyrain at waelod y llyn fwya'.

O waelod y llyn fwya', cerddwch i'r De-ddwyrain am hanner milltir a byddwch yn ffeindio'r trac. Pan mae'r trac yn cyrraedd yr heol, trowch i'r dde, a cherddwch ger yr heol nôl ar y car.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

a) Migneint

Cyfeirnod Grid: SH 751 433

Rhosrtir eang yw'r Migneint, sy'n ymestyn bron 200 cilometr sgwâr. Dyma'r un o'r corsydd fwya Nghymru.

b) Craig Goch y Gamallt

Cyfeirnod Grid: SH 752 447

Mae'r Gamallt yn sefyll 588m uwchben lefel y môr. Clogwyni sy'n ffurfio'r ochor orllewinol, dyma'r Graig Goch.

c) Llynnau Gamallt

Cyfeirnod Grid: SH 748 444

Dwy lyn sy'n ffurfio llynnau Gamallt, un yn fwy na'r llall. Mae'n le pysgota poblogaidd, gyda'r mwyafrif o bysgod yn cael eu dal diwedd mis Mehefin.

Ch) Cwt Pysgota'

Cyfeirnod Grid: SH 745 443

Hen gwt saethu sydd nawr yn cael ei ddefnyddio fel lloches i bysgotwyr sy'n ymweld â'r llynnoedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?