1) Oes angen cyfrifiadur arnaf i ddefnyddio'r gwasanaeth bleidleisio?
Gallwch bleidleisio gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar, neu unrhyw ddyfais sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd trwy borwr safonol. Bydd angen i chi hefyd ddarpar cyfeiriad e-bost dilys i dderbyn ac ymateb i'r ebost a ddaw o Cân i Gymru i gadarnhau eich pleidlais.
2) A allaf pleidleisio gan ddefnyddio fy ffôn?
- Gallwch - os oes gan y ffôn borwr i gyrraedd tudalennau ar y we, h.y. ffôn clyfar fel dyfais Android neu Apple iOS.
- Mae angen cysylltiad â'r we trwy Wi-Fi neu ddata symudol.
- Mae'r dudalen bleidleisio wedi'i gynllunio i weithio ar sgriniau bychain. Unwaith y byddwch wedi clicio ar eich dewis, efallai y bydd angen sgrolio lawr y dudalen i symud ymlaen at gam nesa'r broses.
- Byddwch hefyd gofyn i chi ymateb i e-bost i gadarnhau eich pleidlais.
3) Beth os na allaf gael y côd QR i weithio?
Mae'r côd QR yn ddolen i: s4c.cymru/canigymru.
Gallwch gadw'r cyfeiriad yma fel ffefryn yn y porwr i gyflymu cyrraedd hafan y gwasanaeth pan fydd y cyfnod pleidleisio yn agor.
4) Rwy'n byw mewn ardal sydd â chyflymder band eang isel. Fydda'i yn gallu pleidleisio?
Os yw hafan s4c.cymru/canigymru yn llwytho ar eich dyfais, ac fe allwch dderbyn ac ymateb i ebyst, byddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth. Nid oes angen cysylltiad cyflym dros ben ar y gwasanaeth i weithio'n gywir.
5) Rwy'n byw mewn ardal gyda signal ffôn symudol gwael ac am bleidleisio ar fy ffôn. A fydda'i yn gallu gwneud hyn?
Mae signal data 4G ac uwch yn ddelfrydol ond fe all y gwasanaeth weithredu ar gyflymder data is fel Edge.
6) 'Dwy heb dderbyn e-bost dilysu - beth ddylwn i wneud a pha mor hir dylwn i ddisgwyl?
- Gall gymryd ychydig funudau i gyrraedd yn dibynnu ar gosodiadau eich e-bost a sut mae'ch dyfais yn trin post sy'n cyrraedd.
- Chwiliwch am e-bost oddi wrth 'Cân i Gymru 2025' yn gofyn 'Dilyswch eich cyfeiriad e-bost i ni gyfri'ch pleidlais'.
- Ail-lwythwch cynnwys eich mewnflwch e-bost os oes angen.
- Efallai na fydd y neges yn y prif mewnflwch. Gwiriwch y ffolderi eraill fel 'Diweddariadau'.
- Gwiriwch eich ffolderi sbam a jync.
- Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost ar ôl cyfnod rhesymol, dechreuwch y broses eto gan gymryd gofal arbennig pan yn sillafu eich cyfeiriad e-bost.
7) Beth fydd yn digwydd os bydd y cysylltiad rhyngrwyd yn methu rhwng cyflwyno fy mhleidlais a derbyn yr ebost dilysu?
- Os welwch chi'r dudalen sy'n eich atgoffa i wirio'ch e-bost, mae'ch pleidlais yn dal i ddisgwyl cael ei ddilysu.
- Unwaith fod y cysylltiad rhyngrwyd yn ei ôl, dylech weld yr e-bost yn cyrraedd. Os na, gweler y cwestiwn ''Dwy heb dderbyn e-bost dilysu' (Pwynt 6)'
- Os oes amheuaeth, dechreuwch y broses bleidleisio o'r newydd.
8) Beth os bydda'i wedi clicio ar y ddolen wirio yn fy e-bost, a 'dwy ddim yn gweld y dudalen we sy'n cadarnhau fod fy mhleidlais wedi'i derbyn?
- Os nad ydych yn derbyn cadarnhad wedi clicio ar y ddolen yn yr e-bost dilysu, ail-lwythwch eich porwr a dechreuwch eto.
- Os byddwch yn derbyn neges gwall ar eich ail gynnig yn dweud eich bod 'eisoes wedi pleidleisio', yna mae eich pleidlais wreiddiol wedi'i derbyn, ac 'does dim angen gwneud dim byd pellach.
9) Oes gwahaniaeth os ydw i'n derbyn e-bost trwy borwr rhyngrwyd fel Chrome yn hytrach nag app e-bost fel Outlook neu Apple Mail?
Nag oes – 'does dim gwahaniaeth pa fodd 'rydych yn derbyn e-byst. Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio yn eich mewnflwch a'r ffolderi eraill fel uchod.
Y cam pwysicaf yw clicio ar y ddolen 'Cliciwch yma i wirio eich cyfeiriad e-bost a dilysu eich pleidlais.' Efallai y bydd y ddolen yn ymddangos yn wahanol mewn rhai systemau e-bost, ond dylai fod yn glir yng nghorff yr e-bost.
10) A gaf i bleidleisio o tu allan i Gymru?
Gallwch bleidleisio o unrhyw le yn y DU, ond nid o dramor.
11) 'Rwyf wedi dilyn y camau uchod ond ni allaf gofrestru fy mhleidlais o hyd, neu 'rwy'n dal i dderbyn neges gwall.
- Ail-lwythwch eich porwr.
- Rhowch gynnig arall ar y broses gan gymryd gofal arbennig i wirio eich cyfeiriad e-bost
- Rhowch gynnig ar gyfeiriad e-bost gwahanol os oes un gennych.
- Rhowch gynnig ar ddyfais wahanol.
- Newidiwch eich cysylltiad o ddata symudol i Wi-Fi (neu i'r gwrthwyneb)
- Gall defnyddio VPN achosi problemau. Rhowch gynnig ar gysylltiad rhyngrwyd uniongyrchol.
12) Sut mae ail-lwytho'r wefan ar fy mhorwr?
Ffôn clyfar:
- Gwasgwch y botwm 'Ail-lwytho' ar eich porwr.
- Sgroliwch i lawr o'r top i ail-lwytho'r dudalen.
- Ail-lwythwch ar eich porwr drwy ail-ddanfon y linc.
Cyfrifiadur:
- Windows: Gwasgwch yr allweddi Ctrl a ⇧ Shift i lawr ac yna gwasgwch ar 'R'.
- Mac: Gwasgwch yr allweddi ⌘ Cmd a ⇧ Shift i lawr ac yna gwasgwch ar 'R'.
- Gwasgwch y botwm 'Ail-lwytho' ar eich porwr.
- Ail-lwythwch ar eich porwr drwy ail-ddanfon y ddolen.