S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 hanner dydd ar y 30ain o Dachwedd 2018 a'r feirniadaeth ar raglen Heno ar S4C ar yr un noson. Trwy ddanfon eich llun / lluniau ar gyfer cystadleuaeth ffotograffiaeth yr hydref ar Heno a Prynhawn Da, rydych yn cytuno bod y llun/lluniau yma yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth ac y gallai'r lluniau gael eu hail-gynhyrchu ar raglenni Heno a Prynhawn Da ac ar ein holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft Facebook, Twitter ac Instagram) at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth.

OS OES PERSON NEU BERSONNAU O DAN 18 YN YMDDANGOS YN Y LLUN/LLUNIAU YMA, BYDD ANGEN I CHI GADARNHAU FOD CANIATÂD RHIANT I GYSTADLU YN BODOLI CYN EICH BOD YN GALLU CYSTADLU. NODWCH HYNNY WRTH ANFON Y LLUNIAU OS GWELWCH YN DDA. Os nad ydych yn hapus i ni ddangos eich llun neu'ch lluniau chi, ar unryw un o'r llwyfannau hyn, danfonwch ebost atom yn syth i lluniau@tinopolis.com. Fel ran o'r gystadleuaeth hon, byddwch yn deall y byddwn yn casglu, yn dal ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn ymwneud â chi a'ch cyfraniad i'r gystadleuaeth, yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd sydd i'w weld ar http://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu, yswirio a rheoli'r gystadleuaeth, ac er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i gadw cofnodion penodol. Gallwn hefyd ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i weithredu gwiriadau cefndir rhesymol (eto, yn dibynnu ar natur y gystadleuaeth) er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau rheoliadol ac i wirio'r wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu i ni. Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn diwallu ein rhwymedigaethau amodol i chi fel cystadleuydd, er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a, lle bo' angen er ein budd cyfreithiol. Mae ein buddion cyfreithiol yn cynnwys sicrhau bod yr holl gyfraniadau i'r gystadleuaeth yn addas ar gyfer y Rhaglen a bod y Rhaglen yn cyrraedd ein safonau ac yn cydymffurfio â'n holl rhwymedigaethau cyfreithiol. Efallai y byddwn yn hysbysu ein ymgynghorwyr, pobl ddynodedig , trwyddedai, awdurdodau rheolaethol, partner darlledu ac eraill fel bo' angen yn ôl y Gyfraith o'ch gwybodaeth bersonol. Gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i du allan i'r Ardal Economaidd Ewropaidd lle bo' angen i ni wneud hynny. Os yw'ch manylion personol yn newid yn ystod y gystadleuaeth, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion. Ceir amodau a thelerau llawn ar gyfer cystadlaethau S4C ar http://www.s4c.cymru/en/about-this-site/page/16772/competition-terms-and-conditions/ a cheir mwy o wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth personol yn ein hysbysiad preifatrwydd ar http://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Diolch am gystadlu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?