Heno

Heno

Cystadleuaeth Tocynnau Cymru v Japan 2026

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd ar Cyfryngau Cymdeithasol Heno S4C.

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Cynigir pâr o docynnau i wylio Cymru v Japan yng Nghemau’r Hydref i ddau enillydd ar y 7fed o Dachwedd.

4. Er mwyn cystadlu, unig beth sy’n rhaid i chi neud ydy hoffi’r post ar Facebook Heno S4C.

5. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 12:00 ar y 3ydd o Dachwedd ac yn cau am 15:00 ar y 5ed o Dachwedd, 2026.

6. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

7. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

8. Dim ond unwaith allwch chi gystadlu – bydd dau wobr yn gysylltiedig â’r gystadleuaeth yma.

9. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

10. Dewisir dau enillydd ar hap o blith yr holl hoffiadau a gyflwynir erbyn y dyddiad a'r amser cau ar gyfer pob gystadleuaeth unigol. Bydd penderfyniad Tinopolis ynghylch yr enillwyr yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

11. Hysbysir yr enillwyr ar Facebook I ddechre, cyn ffônio’r enillwyr wedi amser cau y gystadleuaeth. Os na dderbyniwyd Tinopolis ateb i'r galwad gan yr enillydd wedi 24 awr, yna cedwir Tinopolis yr hawl i wobrwyo'r wobr i'r enillydd nesaf.

12. Ar y dyddiad cau, bydd yr enillwyr yn cael ei ffonio, ac ar ôl y dyddiad cau ceir S4C/Tinopolis yr hawl i gyhoeddi enw'r enillwyr a'r sir y maent yn byw ynddi ar s4c.cymru yn adran "Heno" am 21 diwrnod a/neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

13. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

14. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi/o sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

15. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

16. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

17. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

18. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau.

19. Caiff y wobr ei ddanfon drwy app ‘Principality Stadium’ i'r enillwyr trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillwyr gael ei hysbysu.

20. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

21. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

22. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

23. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).