Rhostio almonau man nes yn euraidd. Bydd hyn yn rhoi blas almonau cyfoethog trwy'r bakewell. Gadewch i oeri.
Cymysgwch fenyn a siwgr gyda'i gilydd ar gyflymder araf (gwnewch yn siŵr bod y menyn ar dymheredd ystafell cyn ei ddefnyddio) Peidiwch a gor chwipio'r gymysgedd yma neu bydd yn gwahanu unwaith i chi ychwanegu'r wyau.
Ychwanegwch wyau, un ar y tro.
Ychwanegwch yr almonau wedi rhostio i'r gymysgedd.
Ychwanegwch binsiad o halen.
Ychwanegwch tarragon wedi ei dorri'n fan i'r gymysgedd.
Gadewch i orffwys ar dymheredd ystafell.
Cam 3 - Pobwch y darten frangipane
Llenwch waelod y darten wag hefo haen denau o jam plwm a mafon.
Yna, mewn hefo'r cymysgedd frangipane a'i lyfnhau efo cyllell paled fach.
Pobwch ar dymheredd o 160 gradd nes bod o'n euraidd a 'di pobi yn y canol.
Gadewch i oeri.
Cam 4 - Paratoi’r canol ceirios
Tynnwch y cerrig o 1kg o geirios
Blendiwch hanner ohonyn nhw a phasio'r piwrî mân trwy sieve.
Torrwch yr hanner arall i mewn i chwarteri a chyfuno hefo'r piwrî.
Ychwanegwch lond llaw o tarragon wedi ei falu'n fan i wella blas y ceirios.
Rhewch y gymysgedd mewn mowld hanner sffêr.
Cam 5 - Gwnewch y mousse fanila mascarpone
Berwch yr hufen a'r siwgr gyda'u gilydd
Ychwanegwch 'setting agent'
Arllwys mascarpone drosto a'i gymysgu'n dda.
Gadewch i oeri dros nos.
Cam 6 - Chwipio’r mousse
Chwipiwch y mousse mascarpone nes yn gadarn ond yn esmwyth.
Peipiwch y mousse mewn i fowld hanner sffêr (ychydig yn fwy na'r un ar gyfer y ceirios) ac yna gosod y canol ceirios i mewn.
Gadewch i rewi.
Cam 7 - Gwnewch y glaze
Berwch ddŵr, siwgr a glwcos i 103 gradd selsiws.
Arllwyswch dros siocled gwyn ac ychwanegu'r setting agent.
Yn olaf, ychwanegwch condensed milk a'i flendio yn dda.
Gadewch i oeri at 32 gradd selsiws cyn ei ddefnyddio.
Cam 8 - Gosod gyda’i gilydd
Rhowch glaze coch ar ben yr hanner sffêr.
Gosodwch ar ben y frangipane yn ofalus.
Gwnewch meringue Eidalaidd trwy ferwi siwgr a dŵr ar dymheredd o 121 gradd selsiws. Arllwyswch dros wyn wy tra'n ei chwipio.
Chwipiwch i greu pigau stiff a'i beipio o amgylch y gromen.