

Cyfres newydd sbon. Dyma gyfres sgwrsio yn seiliedig ar fformat rhyngwladol 'The Assembly'. Mae criw o holwyr chwilfrydig awtistig, niwro-wahanol a phobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cyfweld â sawl wyneb amlwg. Y rheolau? ‘Does dim cwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach, ‘does dim pwnc yn cael ei osgoi, a gall unrhyw beth ddigwydd.