S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Geraint Evans
Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi

Geraint Evans oedd Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C. Cyn ymuno â'r sianel, bu'n newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd. Yn Ohebydd ar gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, yna'n Olygydd y Gyfres ac yn Bennaeth Rhaglenni Cymraeg ITV.

Yn ITV, datblygodd nifer o gyfresi newydd ffeithiol a materion cyfoes, fel Y Byd yn ei Le, Y Ditectif ac Ein Byd. Mae wedi derbyn gwobr Bafta Cymru am y rhaglen newyddion a materion cyfoes orau nifer o weithiau ac wedi ennill yr un cydnabyddiaeth gan yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Ers ymuno â S4C yn 2019 mae wedi ail-lansio y rhaglen drafod boblogaidd Pawb a'i Farn, mae wedi comisiynu nifer o ddogfennau materion cyfoes pwerus fel Llofruddiaeth Mike O'Leary, Prif Weinidog mewn Pandemig a Cadw Cyfrinach ac mae wedi bod yn gyfrifol am arwain darpariaeth Newyddion S4C i'r oes ddigidol drwy ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol newydd i S4C.

Datganiad o Dreuliau: 2023-24

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?