Amdanom ni

Amdanom ni

Suzy Davies

Tymor Aelodaeth: 01.08.2022–31.07.2026

Yn gyfreithiwr cymwysedig, dilynodd Suzy yrfaoedd ym maes marchnata’r celfyddydau ac fel uwch gyfreithiwr, cyn gwasanaethu am ddeng mlynedd fel Aelod o’r Senedd, gan gynnwys tymor fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, Treftadaeth a’r Gymraeg.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn eiriolwr dros dwristiaeth yng Nghymru, yn gyn Gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, ac mae’n parhau i ymgyrchu dros fwy o gydraddoldeb fel aelod o fwrdd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod. Ar hyn o bryd mae’n aelod o fyrddau Twristiaeth Canolbarth Cymru, Camlas Cyf, a Gŵyl Lên Maldwyn, yn ogystal ag aelod o fwrdd archwilio a risg Comisiynydd Plant Cymru. Mae hi hefyd yn un o sylfaenwyr Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru.

Yn enedigol o Abertawe, cafodd Suzy ei magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cwm Cynon, Caerdydd ac Aberhonddu. Ar ôl gweithio yn Abertawe, y Drenewydd ac Aberystwyth, ymgartrefodd yn Nyffryn Dyfi lle mae gan ei theulu fusnes fferm a thwristiaeth, a lle dysgodd y Gymraeg.

Datganiad o Dreuliau: 2025-26

Datganiad o Dreuliau: 2024-25

Datganiad o Dreuliau: 2023-24