S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Llion Iwan
Prif Swyddog Cynnwys

Penodwyd Llion Iwan yn Brif Swyddog Cynnwys S4C ym mis Mawrth 2025. Daw Llion â phrofiad helaeth a gweledigaeth greadigol i'r rôl allweddol hon.

Cychwynnodd Llion ei yrfa fel gohebydd ar bapurau lleol cyn ymuno â'r BBC fel newyddiadurwr, lle bu'n gweithio am dros ddegawd mewn amryw rolau newyddion a chwaraeon. Yn ystod ei gyfnod yn y BBC, cynhyrchodd a chyfarwyddodd raglenni dogfen ar gyfer BBC1, BBC2 a BBC4.

Yn 2012, ymunodd Llion ag S4C fel Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol a Chwaraeon, cyn dod yn Bennaeth Darlledu Cynnwys. Yn ddiweddarach, symudodd i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, lle arweiniodd y cwmni i lwyddiant cyllidebol a chynyddu trosiant, gan arloesi gyda gosod cynnwys Cymraeg ar Amazon Prime.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?