Tymor Aelodaeth: 01.05.2025 - 30.04.2029
Mae Delyth yn ddarlledwraig brofiadol ac yn arweinydd ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwraig yn HTV Cymru, gan gyfrannu at raglen materion cyfoes flaenllaw S4C, Y Byd ar Bedwar, ac yna bu'n gweithio fel gohebydd i BBC Radio 4.
Bu'n Aelod o Gynulliad Cymru, ac yn Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, yr Amgylchedd a Materion Gwledig rhwng 2000–2003. Yn dilyn ei gyrfa wleidyddol, bu'n Brif Weithredwr yr elusen cyflogaeth i fenywod, Smart Works.
Ar hyn o bryd, mae Delyth yn gwasanaethu ar fyrddau Chwaraeon Cymru, Coleg Gwent, Sefydliad Alacrity, a'r Urdd.