Tymor Aelodaeth: 01.05.2025 - 30.04.2029
Mae Betsan yn newyddiadures a darlledwraig nodedig gyda gyrfa sy'n ymestyn dros dair degawd. Mae wedi cyflwyno a chynhyrchu amrywiaeth eang o raglenni materion cyfoes ac mae'n adnabyddus am ei dadansoddiad craff a'i hymrwymiad i newyddiaduraeth wasanaeth cyhoeddus.
Bu Betsan yn Olygydd gwasanaethau radio ac ar-lein Cymraeg BBC Cymru, ac yn Aelod o Fwrdd BBC Cymru, yn ogystal â bod yn Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru. Mae'n parhau i gyfrannu at fywyd cyfryngol a dinesig yng Nghymru.