Amdanom ni

Amdanom ni

Dyfrig Davies

Tymor Aelodaeth: 01.05.2025 – 30.04.2029

Mae Dyfrig yn weithredwr cyfryngau profiadol gyda gwreiddiau dwfn ym maes darlledu Cymraeg. Hyd at ddechrau 2025, bu'n Gyfarwyddwr Rheoli Telesgop, un o'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol blaenllaw, ac mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu teledu a radio.

Mae Dyfrig wedi gwasanaethu ar fyrddau nifer o sefydliadau diwylliannol ac addysgol, gan gynnwys Cwmni Urdd Gobaith Cymru. Mae'n dod â dealltwriaeth gref o'r diwydiannau creadigol ac ymrwymiad i'r cyfryngau Cymraeg.