
Cyn ymuno ag S4C, enillodd Nadine brofiad helaeth ym meysydd pobl, datblygu sefydliadol a systemau busnes ehangach ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys cwmnïau technoleg cyflym eu datblygiad. Mae ganddi ymrwymiad cryf i feithrin ffyrdd agored, gonest a chydweithredol o weithio, ac i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u grymuso. Mae Nadine yn gwbl ymrwymedig i greu amgylchedd cynhwysol, ac mae’r ymrwymiad hwn yn llywio ei dull o arwain, cynhwysiant a datblygu pobl.
Cafodd Nadine ei magu mewn cartref Saesneg ei iaith a dysgodd y Gymraeg drwy addysg, gan roi dealltwriaeth uniongyrchol iddi o rôl S4C wrth gefnogi pobl o bob cefndir yng Nghymru i ddefnyddio a datblygu’r iaith.