
Ar gyfer y meringue:
Croen hanner lemwn a chroen hanner oren
Rhowch y gwynwy mewn cymysgydd bwyd glân a’i chwisgio
Yna ychwanegwch y siwgr fesul tipyn a chwisgio’n gyflym nes bod y cymysgedd yn creu copaon amlwg.
Ychwanegwch y sbeis cymysg a'r croen lemwn ac oren at y cymysgedd a pharhewch i chwisgio.
Rhowch y cymysgedd mewn bag peipio gyda thrwyn neu flaen siâp crwn.
Paratowch y toes drwy ei rolio yn denau ar fwrdd glân sydd â rhywfaint o flawd arno. Torrwch yn gylchoedd maint cywir ar gyfer y tun pobi, a’u gosod yn y tun. Yna gosodwch 10g o fins ymhob tarten.
Pobwch mewn ffwrn sydd wedi ei wresogi i 175°C neu farc nwy 2 am 6 munud. Trowch y ffwrn i lawr i 120 C yn barod ar gyfer cam nesaf.
Tynnwch y tun pobi o’r ffwrn, yna peipiwch y cymysgedd meringue ar ben pob tarten. Pobwch ar 120°C am 8 munud nes bod haenen debyg i gragen denau wedi ffurfio ar y meringue, ond ei fod dal yn feddal tu fewn.
Mae'r rysáit yma yn gwneud 64 mins pei meringue.