Cegin Clwyd

Cegin Clwyd

Twrci 'Dolig

Cynhwysion:

  • 1 twrci bach / canolig tua 4-5kg
  • 20 sleisen o facwn rhesog
  • 1kg cig selsig
  • 1 nionyn/winwnsyn wedi'i dorri'n fân
  • 100g bricyll sych, wedi'u torri
  • 100g llugaeron sych
  • 4g pupur y Caribî (allspice)
  • Dail teim wedi'u pigo

Paratoi - noswyl Nadolig

Y Stwffin

Mewn padell, coginiwch y nionyn/winwnsyn yn araf gydag ychydig o olew, gan sicrhau nad yw'n troi'n frown. Ychwanegwch y sbeis pupur Caribî a choginiwch am funud arall. Gadewch iddo oeri.

Mewn bowlen ar wahân, cymysgwch gig y selsig, y bricyll, y llugaeron a'r dail teim.

Ychwanegwch y nionyn/winwnsyn wedi'i oeri at gig y selsig a chymysgwch yn dda. Gadewch ar un ochr nes ei fod yn barod i'w ddefnyddio.

Paratoi'r twrci - (naill ai Noswyl Nadolig neu'n gynnar ar fore Nadolig)

Yn gyntaf, tynnwch y coesau, yna tynnwch yr adenydd a thynnwch yr asgwrn cefn a'r asgwrn tynnu.

Os nad ydych chi'n hyderus, gallwch ofyn i'ch cigydd baratoi’r darnau twrci i chi ymlaen llaw.

Rhowch ddarnau'r twrci, ar wahân i'r coesau, mewn sosban o ddŵr oer; ychwanegwch binsiad o halen a digon o deim ffres. Cynheswch y sosban a dewch â hi i'r berw. Unwaith y bydd wedi berwi, tynnwch oddi ar y gwres a gadewch i ddarnau'r twrci oeri yn y dŵr. Tra maen nhw'n oeri, gallwch baratoi'r coesau.

Torrwch i lawr yr asgwrn ar bob ochr i esgyrn y coesau a thynnwch yr asgwrn yn ofalus o gig y goes. Tynnwch yr asgwrn o'r ochr gefn fel nad ydych chi'n torri trwy'r croen. Agorwch gig y goes a thynnu'r gewynnau allan. Tynnwch y croen oddi ar ddwy goes, gan gadw'r cig yn un darn. Gallwch ychwanegu esgyrn y coesau i'r sosban gyda choron y twrci, er mwyn ychwanegu blas ychwanegol wrth iddo oeri.

Taenwch ychydig o ffilm glynu ar y bwrdd a gosod 10 stribed o gig moch rhesog ochr yn ochr, yn cyfateb i hyd un goes twrci, gan sicrhau nad yw'r stribedi'n gorgyffwrdd â'r ffilm glynu. Rhowch gig y goes yn fflat ar ben y cig moch. Ailadroddwch y broses ar gyfer yr ail goes.

Rhowch hanner y cymysgedd stwffin yng nghanol cig y goes sydd wedi'i osod yn fflat. Codwch ymylon stribedi'r cig moch gyda'r ffilm glynu a rholiwch y cig moch o amgylch y goes a'r stwffin i greu siâp tebyg i selsigen, gan sicrhau bod y cig moch yn gorgyffwrdd. Bydd hyn yn helpu i gadw'r stwffin y tu fewn i gig y goes. Clymwch y ffilm glynu ar bob ochr. Ailadroddwch gyda'r goes arall, yna rhowch y ddau ddarn parod yn yr oergell i galedu rhywfaint cyn coginio.

Rhowch y ddwy goes twrci mewn sosban arall o ddŵr oer, gan sicrhau eu bod wedi'u gorchuddio â’r dŵr. Dewch â nhw i'r berw ac yna diffoddwch y gwres.

Gadewch y coesau yn y dŵr am awr, yna rhowch y coesau yn yr oergell tan fore Nadolig.

Tynnwch goron y twrci allan o'r sosban arall a'i gosod mewn hambwrdd rhostio, yn barod ar gyfer coginio’r cinio Nadolig.

Bore Nadolig

Cynheswch y popty i 160°C

Tynnwch y ffilm glynu oddi ar goesau'r twrci a'u rhoi wrth ymyl y 'goron' ar yr hambwrdd rhostio. Arllwyswch ychydig o olew drostynt a ychwanegwch halen a phupur dros y cig. Rhostiwch yn y popty am 1 awr ac 20 munud, neu nes bod y sudd yn rhedeg yn glir o’r cig.

Gadewch i'r cig orffwys cyn i chi dafellu’r 'goron' a’r stwffin yn barod i’w gweini.