S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cobbler ffrwythau

Cynhwysion

  • 250g blawd hunan godi
  • 120g menyn
  • 100g siwgr brown
  • 1 ŵy
  • llaeth
  • ffrwythau amrywiol
  • digon o fefus
  • sudd ½ lemwn
  • siwgr

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 200C.
  2. Gosodwch y blawd mewn bowlen a rwbiwch yn y menyn.
  3. Trowch yn y menyn, ychwanegwch ŵy yna'r llaeth i greu toes meddal.
  4. Mewn sosban, gosodwch y ffrwythau i gyd gyda thamaid o ddŵr a siwgr. Gosodwch ar dymheredd cymedrol a gadwch i fudferwi am ambell munud nes iddyn nhw feddalu.
  5. Symudwch y ffrwyth draw i dun pobi.
  6. Creuwch peli toes (maint Walnut) o'r cymysgedd a gosodwch ar ben y ffrwyth.
  7. Pobwch am 15 i 20 munud nes mae'n euraidd. Gwaenwch gyda hufen ia neu hufen tolchog.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?