S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Sgwas gyda pesto fegan

Cynhwysion

  • 1 sgwas tua 1.5kg
  • 2 x jariau 285g pupur wedi rhostio
  • 1 winwnsyn
  • 180g castanau
  • 200g madarch castan (chestnut mushroom)
  • teim ffres
  • 200g dail sbigoglys
  • sesnin
  • olew olewydd

Ar gyfer y pesto:

  • 2 llwy fwrdd o persli
  • 1 ewin garlleg
  • 1 tsili coch
  • 100g pecanau

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 170°c / Nwy 5.
  2. Torrwch y sgwas yn hanner yn fertigol a thynnwch yr hadau allan.
  3. Gosodwch bapur pobi mewn tin pobi fawr. Gosodwch y sgwas gyda'r hanner wedi torri o dan. Coginiwch am 50 munud neu nes mae'n dyner.
  4. Gadwch i oeri am 15 munud yna crafwch allan ychydig o'r canol, gan adael ffin tua 3cm o amgylch yr ochr. Cadwch y darnau sgwash o'r canol i un ochr.
  5. Ffriwch y winwnsyn a madarch mewn olew.
  6. Ychwanegwch y castanau wedi malî yn ogystal â'r teim. Ychwanegwch y sgwash wedi stwnshio. Gwywch y sbigoglys am rhai munudau a draeniwch mewn hidlwr.
  7. Leiniwch y sgwash efo pupur, yna'r cymysg madarch a sgwash. Gwasgwch lawr. Yna gosodwch haen o sbigoglys. Wnewch yr un peth gyda'r hanner arall. Unwch y ddau ddarn gyda chordyn o'r gegin.
  8. Dychwelwch i'r din pobi.
  9. Pobwch am 20 munud efo gweddill y teim ac ychydig o'r olew pupur.
  10. Wnewch y pesto trwy blitsio y tsili, garlleg, pecanau a phersli at ei gilydd.
  11. Ychwanegwch weddill yr olew pupur a halen a phupur.
  12. Torrwch y sgwash mewn i ddarnau a serfio gyda'r pesto a llysiau neu salad.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?