S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Torch llysiau rhost

Cynhwysion

  • 800g pannas, moron a sgwash
  • 2 llwy fwrdd olew olewydd
  • 130g sbigoglys
  • 85g cnau pîn
  • 2 x 350g pecyn toes croissant
  • 250g caws feta
  • rhosmari
  • 2 llwy fwrdd parmesan wedi'i gratio

Dull

  1. Tymheredd ffwrn 180°c / Nwy 6.
  2. Piliwch y llysiau a thorrwch y llysiau mewn i ddarnau bach.
  3. Rhowch y llysiau ar y tin rostio a choginiwch am 30 i 40 munud.
  4. Gwywch y sbigoglys mewn sosban ar dymheredd cymedrol am ychydig o funudau. Rhowch mewn hidlwr a gadewch i ddraenio. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod y sbigoglys yn sych i osgoi'r toes i droi'n feddal.
  5. Rhowch bapur pobi tu fewn i'r hambwrdd.
  6. Rhowch flawd ar yr arwyneb gwaith cyn rhoi'r toes allan.
  7. Dadroliwch y toes croissant a thorrwch 12 darn triongl.
  8. Trefnwch y trionglau mewn i batrwm cylch gyda'r darnau'n gorgyffwrdd i ffurfio seren.
  9. Trowch y llysiau, feta, rhosmari, sbigoglys a chnau pinwydd gyda'i gilydd.
  10. Rhowch y cynnwys yng nghanol y toes. Tynnwch pob triongl toes dros y cynnwys, gan binsio i selio.
  11. Brwsiwch gydag wy ac ychwanegwch parmesan ar ei ben.
  12. Pobwch am 30 i 35 munud ac os mae'n troi'n rhy euraidd ychwanegwch ddarn o ffoil ar ei ben.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?