Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Twrci Nadolig
Gan
Shane James
Canolig
Cynhwysion
1 twrci cyfan
2 winwns
2 moron
1 seleri
1 bwlb garlleg
1 cenhinen
1 saets ffres (sage)
170g cymysg stwffin
250g briwfwyd porc
dwrn o fricyll sych
pinsiad nytmeg wedi'i gratio
halen
250g menyn
2 clementin wedi haneri
1 lemwn
2 ciwb stoc cyw iâr
2 llwy fwrdd saws llugaeron
2 llwy fwrdd blawd plaen
1.5 ltr stoc cyw iâr
Dull
Torrwch y winwns, moron, cennin a seleri yna rhowch yn dun.
Gosodwch y twrci mewn a stwffiwch y gwagle gyda'r clementins, bwlb garlleg wedi torri yn hanner a'r saets.
Am y stwffin, cymysgwch y cymysg stwffin efo'r briwfwyd porc, bricyll a 250ml sudd afal. Cymysgwch at ei gilydd a gosodwch mewn gwddf y twrci.
Meddalwch y menyn nes mae'n hawdd gwasgaru, yna rwbiwch ar draws y twrci i gyd.
Gratiwch drosodd y nytmeg + croen y lemwn a gwasgarwch drosodd y ciwbiau stoc.
Lapiwch yn ffoil, a phobwch ar dymheredd ffwrn 180°c am 20 munud i bob 500g o dwrci.
Tynnwch i ffwrdd y ffoil am y 45 munud olaf i liwio'r croen.
Ar ôl coginio gadwch yn y ffwrn am o leiaf 1 awr.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rysáit gan Shane James.