S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Dan Williams

    calendar Dydd Llun, 28 Chwefror 2022

  • Crempog bara brith

    Cynhwysion

    • 400g blawd codi
    • 10g halen
    • 1 llwy de powdr pobi
    • 50g siwgr brown
    • 3 llwy de sbeisys cymysg
    • 250g ffrwythau sych
    • 1 ŵy
    • 1 gwynnwy
    • 150ml te brecwast cryf

    Dull

    1. Wnewch bot cryf o de a gadwch i oeri.
    2. Mewn bowlen cymysgedd, gosodwch y blawd, powdr pobi, siwgr brown, halen a sbeisys cymysg.
    3. Wnewch ffos yng nghanol y cynhwysion ac ychwanegwch wyau a 150ml o de.
    4. Cymysgwch yn dda i greu batter drwchus. Os mae'n rhy drwchus adiwch damaid o laeth.
    5. Ychwanegwch y ffrwythau a chymysgwch yn drylwyr.
    6. Gosodwch pan drwm ar wres a choginiwch bob crempog yn ofalus am 2 munud ar bob ochr nes iddyn coginio drwyddo.
    7. Gwaenwch yn gynnes gyda phaned o de.

    Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?