S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Gareth Richards

    calendar Dydd Llun, 21 Chwefror 2022

  • Profiteroles

    Cynhwysion

    • 150ml dŵr
    • 50g menyn
    • 75g blawd plaen
    • pinsiad halen
    • 2 ŵy

    Llenwad:

    • ½ peint hufen
    • saws siocled
    • 100g siocled plaen
    • 75g menyn
    • 3 llwy fwrdd triog

    Dull

    1. Ychwanegwch y dŵr ar fenyn mewn sosban yna toddwch a dewch i'r pwynt berwi.
    2. Tynnwch o'r gwres ac ychwanegwch blawd a pinsiad o halen yn syth i greu past.
    3. Chwyrliwch yr wyau, yna'n raddol ychwanegwch i'r past nes ei fod yn llyfn ac yn drwchus.
    4. Rhannwch lwy de o'r gymysgedd dros dun pobi wedi leinio yna brwsiwch efo ychydig tamed o ŵy.
    5. Pobwch am 20 i 25 munud ar dymheredd 220°c / Nwy 7 nes maent yn euraidd.
    6. Wnewch dwll ymhob un a gadwch i oeri.
    7. Holltwch a llenwch efo hufen a'i gosod ar blât.
    8. I greu'r saws toddwch y siocled menyn a'r triog mewn sosban ar wres cymedrol.

    Rysáit gan Gareth Richards, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?