S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Gareth Richards

    calendar Dydd Llun, 28 Chwefror 2022

  • Cacennau cri / Pice ar y maen

    Cynhwysion

    • 225g blawd codi
    • 100g menyn Cymreig
    • 50 siwgr
    • 75g siocled
    • chroen 1 oren
    • 1 ŵy

    Dull

    1. Gosodwch y blawd mewn bowlen a malwch y menyn.
    2. Yna ychwanegwch y siwgr, siocled a'r oren.
    3. Curwch yr ŵy ac ychwanegwch a ffurfiwch yn does, roliwch a thorrwch yn gylchoedd.
    4. Coginiwch ar y radell nes mae wedi coginio ac yn lliw euraidd braf bob ochr, ysgeintiwch a siocled wedi toddi.

    Rysáit gan Gareth Richards, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?