S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

​Peli cnau cyll

Cynhwysion

  • llond llaw o gnau cyll cyfan
  • llond llaw o gnau cyll mân wedi eu rhostio
  • 1 jar o Nutella
  • 1 bocs o Special K
  • llond llaw o siocled llaeth

Dull

  1. Cynheswch y popty i wres o 180°C.
  2. Rhostiwch y cnau cyll am 10 – 15 munud nes yn euraidd cyn tynnu'r croen. Yna, gadewch i oeri.
  3. Llenwch fag peipio gyda'r nutella gan ffurfio peli bach ar hyd tun pobi wedi ei orchuddio gyda phapur pobi. Rhowch 1 cneuen wedi ei rostio ar bob pelen. Yna, peipiwch belen arall o'r nutella ar ben y gneuen. Rhowch yn y rhewgell am 30 munud nes yn galed.
  4. Yn y cyfamser, toddwch y siocled mewn powlen dros ddŵr sy'n stemio. Ychwanegwch y cnau cyll man i'r siocled.
  5. Mewn powlen ar wahân, malwch y grawnfwyd Special K.
  6. Tynnwch y cnau cyll o'r rhewgell a'u rholio yn eich dwylo i ffurfio sffêr. Rholiwch yn y grawnfwyd mâl i'w gorchuddio. Gwnewch yr un peth i'r holl beli.
  7. Unwaith i chi orchuddio bob pelen gyda'r grawnfwyd, trochwch yn y gymysgedd siocled a chnau cyll. Gadewch i oeri trwy eu gosod yn yr oergell.
  8. Yna, ffurfiwch byramid gyda'r peli a mwynhewch!

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

Rysáit gan Richard Holt.

Mwy gan Richard Holt:

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?