S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Richard Holt

    Richard Holt

    calendar Dydd Sadwrn, 04 Rhagfyr 2021

  • Y Môn blanc

    Cynhwysion

    Tarten siocled:

    ● 150g menyn

    ● 120g siwgr eisin

    ● 2 ŵy

    ● 300g blawd

    ● 90g powdr coco

    Hufen castan:

    ● 4 dail gelatin

    ● 200g siwgr

    ● 200g hufen (wedi'i ferwi)

    ● 300g mascarpone

    ● 100g piwrî castan

    ● 200g siocled llaeth

    ● 900g hufen chwipio

    Cremeux:

    ● 350g hufen

    ● 6 melynwy

    ● 60g siwgr caster

    ● 115g Irish cream liqueur

    ● 2 dail gelatin

    Jeli lemwn:

    ● 100ml sudd lemwn

    ● 1 dail gelatin

    Feuilletine cnau cyll:

    ● 50g past cnau cyll

    ● 80g siocled llaeth

    ● 50g feuilletine neu 'bran flakes'

    Dull

    Cam 1 – Pastry Siocled

    1. Mae pastry siocled da yn hanfodol ar gyfer y pwdin yma. Mae'n bwysig iawn hidlo'r blawd a'r cocoa cyn cymysu neu fydd na lympiau o flawd yn y pastry gorffenedig - a ti rili ddim isho huna! Rhowch y cynhwysion mewn bowlen peiriant cymysgu.
    2. Tip bach arall da ydi ychwanegu mymryn o halen Môn – neith hyn gryfhau blas y siocled.
    3. Nesaf, mae angen ychwanegu ciwbiau bach o fenyn oer (os di'r menyn yn gynnes neith y pastry droi mewn i bast gwlyb!) a chymysgu'r cwbl lot ar gyflymder isel nes i'r gwead edrych fel briwsion bara.
    4. I atal y pastry rhag sblitio mae'n bwysig ychwanegu'r wyau un ar y tro.
    5. Gadewch i'r peiriant cymysgu wneud ei waith, yna defnyddiwch eich dwylo i weithio'r toes rhyw 'chydig. Os 'da chi'n gorweithio'r toes, mi wnewch chi orweithio'r glwten fydd yn golygu crwst sy'n rhy galed unwaith mae o wedi pobi.
    6. Unwaith mae'r toes di dod at ei gilydd, dwi'n gweithio fo 'chydig bach efo'n nwylo cyn eiroi yn yr oergell am 20 munud.
    7. Rholiwch y crwst allan i 0.3mm a leinio 'pastry case' bach.
    8. Gadewch iddo oeri eto am 10 munud yn yr oergell.
    9. Leiniwch y cas pobi gyda papur gwrthsaim neu 'clingfilm' sy'n saff i roi yn y popty a l lenwch efo reis.
    10. Pobwch yn 'ddall'.
    11. Dwi'n tynnu'r reis a'i bobi eto tan mae'n barod. Mae'n anodd dweud pan mae pastry siocled wedi pobi chos ei fod o'n dywyll – mae pobydd da yn defnyddio arogl i ddweud pan mae'n barod!
    Cam 2 – Irish Cream Cremeux
    1. Curwch y melynwy a'r siwgwr efo'i gilydd.
    2. Cynheswch hufen chwipio yn ofalus tan mae'n berwi.
    3. Arllwyswch yr hufen tros yr wyau a'r siwgwr gan chwipio drw'r adeg – mae hyn yn atal y melynwy rhag coginio.
    4. Rhowch y gymysgedd mewn thermomix ar 85 gradd selsiws.
    5. Unwaith mae'r cwstard yn drwchus, ychwanegwch y siocled a cymysgwch yn dda.
    6. Yn olaf, dwi'n ychwanegu Irish Cream a gadael iddo oeri.
    Cam 3 – Jeli Lemwn
    1. Dwi'n blodeuo 'gelatine' mewn dwr gyda rhew ynddo
    2. Dwi'n berwi sudd lemwn ac yna'n y
    3. Ychwanegu'r 'gelatine'.
    4. Dwi'n sievio'r sudd i gael gwared o unrhyw ddarnau microsgopig o gelatin sydd heb doddi.
    Cam 4 – Feuilletine cnau cyll
    1. Toddwch siocled llaeth a phraline cnau cyll efo'i gilydd ar wres isel.
    2. Ychwanegwch y feuilletine a'i gymysgu'n drylwyr.
    3. Gadewch iddo oeri'n gyflym yn yr oergell.
    Cam 5 - Canol Hylif Cnau Cyll
    1. Cymyswch Praline Cnau Cyll efo llaeth.
    2. Ychwanegu Ultratex nes bod y cysondeb yn addas.
    3. Ychwanegu 'chydig o Halen Mon.
    4. Rhewi mewn semi-sphere moulds.
    NEU - I greu'r liquid centers dwi'n cymysgu praline cnau cyll efo llefrith ac yn ei dewhau efo cynhwysyn arbennig mae chefs patisserie yn ei ddefnyddio – ultratex. Mae'r podwr yma'n ddi-flas ond yn helpu i dewhau'r cymysgedd. Fydd rhain yn cael eu rhewi cyn eu defnyddio yny Môn Blanc.Cam 6 - Mousse Siocled a Chnau Castan
    1. Berwi hufen a siwgr.
    2. Arllwys y gymysgedd ferwedig dros y siocled a'i gymysgu nes ei fod yn llyfn.
    3. Ychwanegu mascarpone a chnau castan a'i gymysgu eto nes ei fod yn llyfn.
    4. Gadewch iddo osod yn yr oergell dros nos.
    Cam 7 - Rhoi at ei gilydd
    1. Peipio'r Cremeux hufenog efo Irish Cream liqueur ynddo mewn i waelod y darten.
    2. Ychwanegu darnau bach o'r feuilletine (darnau bach blasus o crepes wedi'w crasu) a jeli lemwn i roi cic bach 'citrus' i'r pwdin.
    3. Dipio'r 'semi-sphere' cnau cyll wedi'u rhewi mewn siocled (er mwyn sicrhau nad yw'r 'liquid centre' yn diferu i bobman pan mae o wedi dadmer) a'i roi ar ben y darten.
    4. Chwipio'r mousse.
    5. Defnyddio sbatwla bach i greu siâp mynydd efo mousse chestnut.
    6. Peipio sberial ar y côn gan ddefnyddio chwaraewr recordiau

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o gyfres Richard Holt: Yr Academi Felys.

    Rysáit gan Richard Holt.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?