Cegin S4C

Cegin S4C

Dewis salad dy hun

    Cynhwysion

    • 80g letys
    • 200g tatws newydd
    • 60g ciwcymbr
    • 60g tomato
    • 80g ffa gwyrdd
    • 2 wy
    • 1 tin tiwna mewn dŵr gwanwyn (145g wedi draenio) neu 45g Feta
    • 1 llwy de mwstard dijon
    • 1 llwy fwrdd olew olewydd
    • sudd ½ lemon
    • pinsiad halen a phupur.

    Dull

    1. Berwch y tatws mewn dŵr halen tan yn feddal, yna eu draenio.
    2. Berwch yr wyau mewn dŵr berw am 6 munud tan yn feddal yna eu rhoi mewn dŵr oer i stopio'r wyau rhag coginio ymhellach.
    3. Coginiwch y ffa gwyrdd mewn dŵr berw halen am 2-3 munud, yna ychwanegu dŵr oer i gadw nhw'n grimp a rhag coginio ymhellach.
    4. Tra bo'r tatws, wyau a ffa gwyrdd yn coginio paratowch gweddill y cynhwysion.
    5. Rhwygwch y letys a'i rannu rhwng 2 blât.
    6. Torrwch y ciwcymbr a'r tomatos yn giwbiau a'u rhannu rhwng dau blât.
    7. Unwaith mae'r tatws, wyau a ffa gwyrdd wedi cwcio rhannwch nhw rhwng 2 blât hefo'r tiwna neu feta.
    8. I wneud y dresin salad, ychwanegwch y mwstard Dijon, olew olewydd, sudd lemon, sesnin a 3 llwy fwrdd o ddŵr mewn jar gyda chaead.
    9. Caewch y caead yn dyn ac ysgwyd y jar i'w gymysgu.
    10. Rhannwch y dresin salad rhwng 2 blât a'i weini.

    Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.

    Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru

    Instagram Beca: @becalynepirkis

    Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru