S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Tagine Morocaidd llysieuol

Cynhwysion

  • ½ llwy fwrdd olew olewydd
  • 400g tin gwygbys (wedi draenio) (chickpeas)
  • 400g tin tomatos
  • 1 nionyn canolig, wedi sleisio yn fân
  • 3 clof garlleg, wedi sleisio yn fân
  • 1 moron mawr, wedi pilio a chiwbio
  • 1 pupur coch, wedi sleisio'n fân
  • 2 coes seleri, wedi ciwbio
  • 4 bricyllen, wedi ciwbio
  • 1 llwy de cinnamon mâl
  • 1 llwy de cumin mâl
  • 1 llwy de coriander mâl
  • 40g couscous
  • halen i flasu
I weini:
  • 1 llwy fwrdd naddion almwnd, wedi tostio
  • bwnsh bach persli ffres, wedi torri
  • bwnsh bach mint ffres, wedi torri
  • 1 llwy fwrdd iogwrt braster 0%

Dull

  1. Mewn sosban fawr, cynheswch yr olew dros wres isel-canolig ac ychwanegu'r nionod, pupur, moron a seleri wedi sleisio/torri.
  2. Coginiwch gan droi bob hyn a hyn tan eu bod yn feddal a melys – tua 10-12 munud.
  3. Ar ôl yr amser yma ychwanegwch y garlleg, bricyll a gwygbys (chickpeas) a choginio am 3-4 munud pellach.
  4. Nesaf ychwanegwch y sbeisys a choginio am ychydig funudau cyn ychwanegu'r tomatos.
  5. Rhowch binsiad go lew o halen, cymysgu a'i adael i fudferwi, gan droi bob hyn a hyn, am 20 munud.
  6. Ar ôl yr 20 munud, coginiwch y couscous yn ôl cyfarwyddiadau'r paced (fel arfer yr un maint o ddŵr a couscous), rhowch mewn bowlen hefo dŵr berwedig, cymysgu a'i orchuddio a'i adael i amsugno'r dŵr am ychydig funudau.
  7. Yn y cyfamser tostiwch yr almwnd a thorri'r perlysiau yn barod i weini.
  8. Rhannwch y couscous rhwng 2 fowlen, yna hanner y tagine.
  9. Gwasgarwch ychydig o'r iogwrt drosto a gorffen drwy ychwanegu'r perlysiau a'r almwnd.

Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.

Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru

Instagram Beca: @becalynepirkis

Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?