S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pysgod, sglodion a phys tsili

Cynhwysion

  • 360g tatws
  • 3 llwy de olew
  • 240g corbenfras (hadog)
  • 30g briwsion bara gwenith llawn
  • bwnsh bach o bersli a dil
  • croen hanner lemon
  • 120g pys wedi rhewi
  • 80g llysiau gwyrdd y gwanwyn
  • naddion tsili
  • halen a phupur

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i ffan 180c.
  2. Glanhewch y tatws a'u torri yn sleisys, yna eu rhoi mewn bowlen ac arllwys 2 llwy de o olew drostynt gyda phinsiad o halen a phupur. Trowch y tatws yn yr olew a'r sesnin yna eu lledaenu ar dun pobi a'u pobi yn y popty am 20-25munud.
  3. Tra bo'r tatws yn coginio, torrwch y perlysiau yn fan a'u cymysgu hefo'r briwsion bara, croen lemon a sesnin. Brwsiwch y pysgodyn hefo gweddill yr olew a gorchuddio'r pysgodyn hefo'r gymysgedd bara. Ychwanegwch y pysgodyn at y tatws ar ôl yr 20-25munud a choginio pob dim am 15-20munud arall.
  4. Yn y cyfamser, golchwch y llysiau gwyrdd a'u torri'n fan. Coginiwch y pys a'r llysiau mewn dŵr berwedig hefo ychydig o halen am rhai munudau.
  5. Gweinwch y pysgodyn a'r tatws hefo'r llysiau a phinsiad da o naddion chili a joch o sudd lemon.

Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.

Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru

Instagram Beca: @becalynepirkis

Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?