S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Nerys Howell

    Nerys Howell

    calendar Dydd Iau, 24 Mawrth 2022

  • Lemon meringue pie

    Cynhwysion

    • crwst brau (220g blawd plaen, 100g menyn, 3 llwy fwrdd dŵr oer)
    • 3 llwy fwrdd blawd corn
    • 100g siwgr mân
    • croen 3 lemon
    • 150ml sudd lemon (o 2-3 lemon)
    • sudd 1 oren
    • 85g menyn
    • 3 melyn wy + 1 wy cyfan
    • meringue
    • 4 gwyn wy
    • 175g siwgr mân
    • 2 llwy de blawd corn

    Dull

    1. Roliwch y crwsti dun flan 23cm, gwnewch dyllau gyda fforc ar ei waelod a rhoi yn yr oergell i orffwys am awr, cyn pobi'n ddall gyda ffoil ar ei waelod am gwarter awr wedyn codi'r ffoil a'i ddychwelyd i'r ffwrn am 10 munud arall.
    2. I neud y llenwad cymysgwch y blawd corn,100g sigwr man, croen a sudd y lemwn.Ychwanegwch ddwr at y sudd oren i fesur 200ml ac ychwanegwch at y lemon a rhoi'r cyfan mewn sosban dros wres canolig a'i droi tan yn dechrau tewhau. Tynnwch o'r gwres ac ychwanegwch y menyn wedi'u dorri'n giwbiau a'i droi tan wedi toddi.
    3. Cymysgwch y melynwy a'r wy cyfan a'i arllwys i'r sosban gyda gweddill y gymysgedd. Rhowch dros wres canolig gan gadw i droi wedyn arwllyswch dros y crwst.
    4. Chwyrliwch y gwyn wy tan yn feddal wedyn ychwanegwch y siwgr fesul llwyaid a'r blawd corn a chadwch i gymysgu tan bod y meringue yn llyfn ac yn drwchus. Rhowch ar ben y llenwad lemwn gan wneud yn siwr eich bod yn gorchuddio'r llenwad i gyd gyda'r meringue.
    5. Rhowch nol yn y ffwrn ar wres 170C /nwy 3.5 am 15-20 munud tan bod y meringue yn euraidd.

    Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?