S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Tartenni llysiau

Cynhwysion

  • 1 x 500g crwst pwff
  • 4 llwy de pesto neu gaws hufen
  • 1 dyrnaid tomatos ceirios
  • 8 asbaragws
  • 1 courgette
  • jar puprau wedi rhostio
  • ½ bwnsh basil ffres
  • olew olewydd
  • 8 olewydd du
  • 1 x 100g bel mozzarella
  • caws parmesan

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°c | Ffan 180°c | Nwy 6.
  2. Dystiwch ychydig o flawd arno arwyneb glan a roliwch allan y toes mewn i sgwâr gyda phin rowlio. Mesuriad 26cm x 26cm. Torrwch mewn i 4 neu 6 sgwâr hafal.
  3. Gosodwch y sgwariau toes ar dun pobi, gan adael digon o le rhwng bob darn.
  4. Gan ddefnyddio cefn llwy, gwasgarwch pesto yng nghanol bob sgwâr.
  5. Torrwch y tomatos a snapiwch yr asbaragws mewn i ddarnau 3cm.
  6. Torrwch y courgettes mewn i rubanau gan ddefnyddio piliwr.
  7. Rhwygwch y pupurau mewn i stripiau.
  8. Pigwch y dail basil.
  9. Cymysgwch y llysiau i gyd at ei gilydd mewn bowlen, gydag ychydig o olew olewydd.
  10. Gosodwch ychydig o'r cymysgedd ar bob tarten a thopiwch gyda 2 olewydd.
  11. Torrwch i fyny'r Mozzarella a gosodwch y darnau bach ar ben bob tarten.
  12. Gratiwch drosodd parmesan.
  13. Pobwch am 15 i 20 munud, nes mae'r toes yn euraidd.
  14. Unwaith mae'r tartenni yn barod, gadwch i oeri. Yna gosodwch y dail basil ar ben a gweinwch gyda salad.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?