S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen ŵy siocled

Cynhwysion

  • 350g blawd hunan godi
  • 300g siwgr
  • 300ml olew llysiau
  • 300ml llaeth
  • 4 ŵy
  • 4 llwy fwrdd powdr coco
  • 4 llwy fwrdd surop euraidd
  • 2 lwy de soda bicarbonate
  • 500g siwgr eisin
  • 250g menyn hallt
  • 100g menyn cnau mwnci (peanut butter)
  • 2 lwy fwrdd powdr coco
  • 200g siocled
  • 50g "mini eggs"
  • 50g popcorn
  • 2-4 creme egg
  • 1 bag "mini eggs"

Dull

  1. Cymysgwch y cynhwysion cacen mewn bowlen efo whisk.
  2. Gosodwch mewn tun cacen gyda phapur pobi (tun 12-15cm).
  3. Pobwch ar dymheredd 170°c am tua 45 munud, nes iddo goginio trwyddo.
  4. Ar gyfer yr eisin, chwipiwch y cynhwysion mewn bowlen, nes mae'n feddal.
  5. Ar gyfer y shards siocled, toddwch y siocled yn araf a gwasgarwch ar papur pobi, yna gwasgarwch drosodd mini eggs wedi'i malu + popcorn a gadwch i setio.
  6. Unwaith i'r gacen oeri, torrwch yn hanner a gwasgarwch yr eisin yn y canol ac ar y top.
  7. Torrwch y siocled i greu shardiau.
  8. Addurnwch dop y gacen gyda mini eggs, shardiau + creme eggs.

Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?