S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Shane James

    calendar Dydd Mawrth, 03 Mai 2022

  • Bakewell riwbob a sinsir

    Cynhwysion

    • 250g siwgr demerara
    • 250g almonau
    • 250g menyn
    • 50g blawd plaen
    • 3 ŵy
    • 1 sinsir ffres
    • 500g riwbob
    • 2 pecyn bisgedi sinsir
    • 50g almonau fflawiog
    • cwstard

    Dull

    1. Cymysgwch mewn y menyn, siwgr, almonau, blawd ac wyau efo'i gilydd i ffurfio "frangipane".
    2. Gratiwch sinsir mewn i'r gymysgedd.
    3. Gosodwch y bisgedi mewn mowld "cupcakes".
    4. Gosodwch y frangipane ar ben, ½ ffordd.
    5. Deisiwch hanner y riwbob a gosodwch yng nghanol y cacen.
    6. Gosodwch mwy ar ben.
    7. Torrwch gweddill y riwbob mewn i batons, a rhowch nhw ar ben y bakewells.
    8. Topiwch gyda almonau fflawiog.
    9. Pobwch am tua 25 i 30 munud.

    Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?