S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Dan ap Geraint

    Dan ap Geraint

    calendar Dydd Mercher, 18 Mai 2022

  • Cig oen crisp gyda feta, caprys a mint

    Cynhwysion

    • 1 brest cig oen
    • 200g tatws newydd
    • 25g mint sych
    • 100g ffa gwyrdd
    • 100g feta Sir Fôn
    • 50g caprys
    • 50g mint ffres

    Dull

    1. Cynheswch y ffwrn i 150°c.
    2. Gosodwch y tatws newydd yng nghanol dysgl rostio ddwfn.
    3. Gosodwch y cig oen ar ben y tatws, yna gorchuddiwch efo'r mint sych. Yna ychwanegwch sesnin (halen a phupur).
    4. Gorchuddiwch y ddysgl gyda ffoil, yna pobwch am 3 awr.
    5. Ar ôl 3 awr trowch dymheredd y ffwrn i fyny i 180°c, gwaredwch y ffoil a phobwch am 15 munud arall.
    6. Unwaith i'r cig oen coginio, tynnwch allan y ffwrn a gadwch ar blât.
    7. Berwch y ffa gwyrdd mewn dŵr hallt. Unwaith maent wedi coginio, ychwanegwch ar ben y tatws ar waelod y ddysgl pobi. Yna adiwch y caprys, mint ffres a chaws feta.
    8. Cymysgwch yn drylwyr a gweinwch efo darnau o'r frest cig oen.

    Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?