S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Catrin Thomas

    calendar Dydd Mawrth, 05 Gorffenaf 2022

  • Sgons mefus

    Cynhwysion

    • 400g mefus bach
    • 2 llwy de o siwgr mân
    • 500g o flawd codi eich hun
    • 75g o siwgr mân
    • 110g o fenyn
    • 1 llwy de baking powdwr
    • 1 wy
    • 300ml o laeth

    Dull

    1. Rhowch y popty ar 120 ffan/nwy 1/2
    2. Hulio a thorri'r mefus yn eu hanner. Rhowch ar hambwrdd pobi gyda phapur gwrthsaim.
    3. Ysgeintiwch siwgr a'i rostio am 1 awr a hanner.
    4. Tynnwch a gosod o'r neilltu.
    5. Cynyddwch y popty i 200c ffan/nwy 7.
    6. Ar gyfer y sgons rhwbiwch y menyn a'r blawd a'r powdr pobi. Dylai hwn fod yn debyg i friwsion bara mân.
    7. Ychwanegwch y darnau siwgr a mefus.
    8. Curwch yr wy i'r 300ml o laeth.
    9. Cymysgwch gyda'i gilydd i'r cynhwysion sych gan wneud yn siŵr nad yw'n rhy wlyb.
    10. Tylinwch ar y bwrdd a rholiwch yn ysgafn tua 4cm o drwch.
    11. Torrwch sgons allan gyda thorrwr 7cm, ail-rolio'r toes i wneud mwy o sgons.
    12. Brwsiwch gyda'r cymysgedd wy/llaeth sy'n weddill os oes gennych rai ar ôl os nad dim ond brwsiwch â llaeth.
    13. Pobwch am 15/20 munud nes yn frown euraid.
    14. Gweinwch gyda hufen tolch a mwy o fefus.

    Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?