S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Catrin Thomas

    calendar Dydd Llun, 24 Hydref 2022

  • Caserol cig eidion

    Cynhwysion

    • 2 lwy fwrdd olew olewydd
    • 1kg cig eidion
    • 2 winwns coch
    • 1 pupur coch
    • 3 clof garlleg
    • 400ml stoc llysiau
    • 2 x 400g ffa llygaid du (black eyed)
    • 1 llwy fwrdd tomato purée
    • 400g tun tomato
    • 1 llwy de siwgr
    • 2 lwy de paprica
    • 1 llwy de cwmin
    • 1 – 2 tsili gwyrdd
    • halen a phupur
    • gweini gyda thatws wedi'i stwnshio neu reis

    Dull

    1. Cynheswch y popty i 140 Celsius / Nwy 3
    2. Cynhesu'r olew mewn padell fawr sydd â chaead a gellid ei roi yn y popty.
    3. Ychwanegwch y cig eidion a browniwch y cyfan. Gwnewch hyn mewn sypiau.
    4. Dylai'r cig eidion fod yn euraidd i gyd.
    5. Ychwanegwch y winwns, pupurau, garlleg a chilli a'u ffrio am ychydig funudau.
    6. Ychwanegwch y sbeisys a choginiwch am ychydig funudau, yna'r piwrî tomato.
    7. Ychwanegwch y stoc a'r tomatos tun.
    8. Dewch â'r berw.
    9. Ychwanegwch y cig eidion yn ôl i'r badell.
    10. Gorchuddiwch a choginiwch am 1 awr a hanner i 2 awr. Dylai'r cig eidion fod yn dyner.
    11. Trowch y ffa i mewn yr hanner awr olaf o goginio.
    12. Gweinwch gyda stwnsh neu reis a llysiau.

    Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?