S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Burrata, corbys a thatws melys

Cynhwysion
(Digon i 1)

  • 1 daten felys fawr
  • olew
  • halen a phupur
  • 1 llwy de o arlleg sych
  • sialóts
  • 2 ewin garlleg wedi'u malu
  • corbys gwyrdd wedi'u coginio
  • caws burrata
  • finegr balsamaidd wedi ei leihau/glaze
  • basil ffres
  • persli ffres
  • olew/darnau tsili (opsiynol)

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C Ffan.
  2. Pliciwch y daten felys a'i thorri'n ddarnau. Rhowch nhw mewn bowlen a'u gorchuddio ag 1 llwy fwrdd o olew olewydd, halen a phupur a garlleg wedi'i falu. Rhowch nhw mewn tun pobi a'u rhostio yn y ffwrn am 20–25 munud.
  3. Rhowch ychydig o olew mewn ffreipan a ffrio'r sialóts am 1 munud ar wres cymedrol cyn ychwanegu'r corbys wedi'u coginio. Coginiwch am ychydig funudau nes iddyn nhw dwymo trwyddynt ac ychwanegu halen fel y dymunwch.
  4. Unwaith mae'r tatws melys wedi coginio, gweinwch nhw ar blât gyda'r corbys a'r burrata wedi ei dorri. Ychwanegwch ychydig bach o finegr balsamaidd a sgeintio basil a phersli wedi'i dorri dros y cyfan. Ychwanegwch olew neu ddarnau tsili at eich pryd os ydych chi'n hoffi bach o sbeis.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?