S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Colleen Ramsey

    Colleen Ramsey

    calendar Dydd Iau, 19 Ionawr 2023

  • Wrap wy

    Cynhwysion

    • llond llaw o fadarch porcini sych
    • 250ml o ddŵr
    • 2 lond llaw o fadarch cymysg
    • olew
    • 2 lwy fwrdd o gaws hufennog
    • llond llaw o sbinaets ifanc
    • halen a phupur
    • 3 wy, wedi'u curo
    • persli ffres

    Dull

    1. Mwydwch y madarch sych mewn llond mẁg o ddŵr a gadael iddyn nhw drwytho am 10 munud.
    2. Unwaith iddyn nhw feddalu, tynnwch y madarch allan a'u torri nhw'n fân, gan gadw dŵr y madarch.
    3. Torrwch y madarch ffres. Cynheswch ychydig o olew mewn ffreipan fach a ffrio'r madarch ffres ar wres canolig.
    4. Unwaith iddyn nhw goginio, ychwanegwch y madarch wedi'u hydradu a'u torri'n fân ynghyd â dŵr y madarch a'u coginio ar wres uchel nes bod yr hylif wedi lleihau i'r hanner.
    5. Yna ychwanegwch y caws hufennog a'r sbinaets wedi'i dorri a'i sesno gyda halen a phupur fel y dymunwch. Tynnwch e oddi ar y gwres a'i roi o'r neilltu i oeri ychydig.
    6. Torrwch yr wyau i mewn i fowlen a'u curo a sesno gyda halen a phupur. Mewn ffreipan fach ychwanegwch ychydig o olew, gan wneud yn siŵr i chi iro'r ffreipan yn iawn, a'i rhoi ar wres isel.
    7. Ychwanegwch yr wyau a'u twymo'n araf, a rhowch y caead ar ben y ffreipan i greu wrap o'r wy. Ychwanegwch ychydig o'r llenwad a phlygu'r wy drosodd.
    8. Yn ofalus, defnyddiwch sbatwla i symud yr wy i blât ar gyfer ei weini. Addurnwch gyda phersli ffres.

    Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

    Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)

    Instagram: @colleen_ramsey

    Twitter: @_C_Ramsey

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?