S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Colleen Ramsey

    Colleen Ramsey

    calendar Dydd Llun, 23 Ionawr 2023

  • Ragu

    Cynhwysion

    • 4 ciwb o stoc cig eidion
    • 1 litr o ddŵr berw
    • 1500g o fins cig eidion
    • 1500g o fins cig moch
    • olew i ffrio
    • halen a phupur
    • 3 moronen
    • 3 choesyn seleri
    • 3 wynwnsyn gwyn mawr
    • 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
    • glased mawr o win coch
    • 1 jar 690g o passata
    • 1 llwy fwrdd o siwgr
    • deilen lawryf

    Dull

    1. Cymysgwch y ciwbiau stoc gyda 1 litr o ddŵr berw a'u rhoi o'r neilltu.
    2. Cymysgwch y mins cig eidion a chig moch gyda'i gilydd nes eu bod wedi'u cyfuno'n dda. Ffrïwch nhw mewn sosban fawr gydag ychydig o olew a halen a phupur fesul 4 tamaid gan frownio a charameleiddio'r cig. Rhowch y cig wedi'i frownio yn y stoc tra eich bod yn ffrio'r tamaid nesaf.
    3. Pan fydd y cyfan wedi brownio ac yn gorffwys yn braf yn y bath stoc, defnyddiwch yr un sosban i ffrio'r moron, y seleri a'r wynwns, wedi eu torri'n fân, mewn ychydig bach mwy o olew. Ffrïwch y rhain ar wres canolig i isel am tua 10–15 munud a sesno gyda halen a phupur.
    4. Pan fydd y llysiau wedi meddalu, gwasgwch 2 lwy fwrdd o biwrî tomato i mewn a'u coginio am tua munud. Codwch y gwres yn uchel ac arllwys y gwin i mewn. Defnyddiwch y gwin i grafu'r blasau bendigedig o waelod y sosban.
    5. Nôl mewn â'r cig a'r stoc, a hefyd y passata , y siwgr a phinsiad da o halen. Rhowch y ddeilen lawryf i mewn, rhoi'r caead ar ben y sosban a'i rhoi mewn ffwrn 160°C Ffan am 4 awr. Neu, defnyddiwch y ffwrn araf am 6–7 awr. Pan fydd yr amser ar ben defnyddiwch stwnsiwr tatws i stwnsio'r cig yn ddarnau mân.
    6. Gweinwch gyda'ch hoff fath o basta. Dwi'n argymell rigatoni am ei fod yn dal siâp y cig yn dda.

    Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

    Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)

    Instagram: @colleen_ramsey

    Twitter: @_C_Ramsey

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?