S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Torch selsig

Cynhwysion

  • 600g cig selsig
  • 1 winwns
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 afal
  • 1 llwy fwrdd teim neu rosmari
  • 2 lwy fwrdd persli
  • 50g briwsion bara
  • 1 ŵy
  • 2 lwy fwrdd hadau sesame

Dull

  1. Cynheswch y popty i 200C/180Fan/Nwy 6.
  2. Piliwch a thorrwch y winwnsyn yn fân a'i ffrio am 6-8 munud yn yr olew a'i adael i oeri.
  3. Gwasgwch y cig selsig allan o'u crwyn neu rhowch y cig selsig mewn powlen ynghyd â'r perlysiau a'r briwsion bara. Piliwch a gratiwch yr afal a'i ychwanegu at y bowlen yna sesnwch gyda phupur du.
  4. Ychwanegwch y winwnsyn wedi'i goginio a'i gymysgu'n dda.
  5. Torrwch y crwst yn 2 ar ei hyd yna gwlychu'r ymylon byr gyda dŵr a'i uno i wneud petryal hir.
  6. Siapiwch y cig selsig yn un selsig hir a'i roi ar hanner y crwst. Brwsiwch y crwst agored gyda'r wy wedi'i guro yna plygwch y crwst dros y selsig a'i selio'n dda.
  7. Symudwch ar daflen pobi wedi'i leinio a throi i wneud cylch sy'n cysylltu'r ddau ben â'i gilydd. Gwnewch tua 20 toriad 2/3 o'r ffordd i lawr pob rholyn selsig a throelli'r crwst i fyny i helpu i wahanu pob un. Brwsiwch y cylch gyda mwy o wy wedi'i guro ac ysgeintiwch hadau sesame ar y brig.
  8. Pobwch am 30-35 munud nes ei fod yn euraidd ac wedi coginio drwyddo. Tynnwch o'r popty a'i addurno â rhosmari a dail llawryf os dymunwch.
  9. Gweinwch gyda salad yn y canol neu bowlen o siytni winwnsyn wedi'i garameleiddio.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?