S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Michelle Evans-Fecci

    calendar Dydd Gwener, 24 Chwefror 2023

  • Myffins

    Cynhwysion

    • 220g blawd plaen
    • 1 llwy de powdr pobi
    • 1 llwy de bicarbonate soda
    • 1 llwy de sinamon
    • 180g siwgr mân
    • 180g ffrwythau ffres
    • 130ml llaeth enwyn
    • 1 llwy de fanila
    • 1 ŵy
    • 30ml olew llysiau
    • 50g menyn
    • blawd plaen
    • siwgr mân
    • 25g ceirch a chnau

    Dull

    1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200 ffan.
    2. Gwnewch y top crymbl trwy rwbio'r menyn a'r blawd gyda'i gilydd i ffurfio briwsion bara, yna ychwanegu ceirch, siwgr a chnau wedi'u torri. Gosod i un ochr.
    3. Torrwch y ffrwythau (os yn fawr) a'u hychwanegu at y blawd.
    4. Cymysgwch y powdr pobi, bicarb, sinamon a siwgr gyda'i gilydd mewn powlen fawr.
    5. Cymysgwch y cyfan yna ychwanegwch y blawd a'r ffrwythau a chymysgwch yn dda.
    6. Mewn jwg chwisgwch yr wy gyda'r olew fanila a'r llaeth enwyn.
    7. Ychwanegu cynhwysion gwlyb i'r bowlen, a llwy i mewn i gasys 3/4 llawn.
    8. Rhowch crymbl ar ei ben a'i bobi am 15-20 munud.

    Rysáit gan Michelle Evans-Fecci, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Instagram: @bakesbymichelle

    Twitter: @bakesbymichelle

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?