S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Colleen Ramsey

    Colleen Ramsey

    calendar Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023

  • Byrgyr gamwn wy neu binafal

    Cynhwysion

    • 2 x taten maris piper mawr
    • 1 x winwnsyn gwyn
    • 1 llwy de gronynnod garlleg
    • 1 llwy de gronynnod winwns
    • 1 llwy de paprika
    • halen a pupur
    • 1 wy
    • blawd plaen
    • olew i ffrio
    • 'medallions' gamwn x 2
    • 2 wy i ffrio
    • byns brioche x 2
    • mwstard
    • mayonnaise
    • pinafal ffres

    Dull

    1. Tostiwch y byns a'u gosod i'r naill ochr. Gratiwch y tatws a'r winwns. Golchwch mewn dŵr tan yn glir. Gwasgwch y dŵr allan.
    2. Rhowch mewn powlen gyda'r gronnynod garlleg, winwns a'r paprica a halen a phupur, wy a'r blawd tan fod e'n gytew weddol lac.
    3. Twymwch olew mewn padell ffrio ac yn ofalus rhowch y cytew i mewn a'i goginio o'r naill ochr tan fod wedi ei goginio drwyddo ac yn grisp. Os oes amser ma' ddull arall sef rhoi'r cytew mewn tun wedi ei leinio gyda 'cling film' pwyswch i lawr a rhewi am awr a'i dorri mewn unrhyw siâp – triongl fel Mr Urdd wastad yn hwyl.
    4. Ffriwch ar dymheredd isel tan fod lliw da arno ac wedyn gosod ar bapur cegin i gripio gyda bach o halen mor.
    5. Ffriwch y gamwn yn gyflym mewn bach o fenyn a pherlysiau os y'ch eisiau. Cadwch yn gynnes mewn ffoil ac wedyn ffriwch eich wyau.
    6. Os am gael pinafal ffriwch yn y ru'n ffreipan a'r gamwn tan ei fod wedi carameleiddio – rhowch ar ben eich byrgyr gyda bach o tsili a paprika melys.
    7. Rhowch fwstard ar waelod y byrgyr – gamwn wedyn yr hash brown ag wy neu binafal a mayo ar y byn arall. Super Blasus!

    Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

    Instagram: @colleen_ramsey

    Twitter: @_C_Ramsey

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?