S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Penfras sawrus a melys

Cynhwysion

  • ½ winwnsyn gwyn
  • 1 pupur coch
  • 2 ewin garlleg
  • tin pînafal
  • 20g sinsir
  • 2 lwy fwrdd blawd corn
  • 2 lwy fwrdd siwgr brown
  • 2 lwy fwrdd sos coch (ketchup)
  • 1 llwy de podr tsili mwyn
  • 1 llwy fwrdd saws soi
  • 1 llwy fwrdd mirin
  • ffiled penfras wedi ei dorri'n giwbiau
  • reis i weini
  • coriander a leim

Dull

  1. Torrwch y llysiau i gyd a thorri 5 cylch pinafal mewn i giwbiau. Cadwch y sudd. Cymysgwch y siwgr brown, sos coch, mirin a saws soi mewn i'r sudd y binafal.
  2. Ffriwch y binafal nes ei fod wedi carameleiddio ychydig. Ffriwch weddill y llysiau a ychwanegwch halen i'ch blas.
  3. Arllwyswch y sudd at y blawd corn a 2 lwy fwrdd o ddŵr oer i wneud cymysgedd eithaf trwchus.
  4. Gadewch i'r saws dewhau ac wedyn dewch ag ef i'r berw. Wedyn, trowch lawr i wres is ac ychwanegu'r penfras.
  5. Gorchuddiwch gyda chaead a choginio am tua 3 munud.
  6. Gweinwch yn syth gyda reis, coriander a sleis o leim.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?