S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Ravioli Colleen

Cynhwysion

I'r toes:

  • 2 ŵy
  • 1 melyn ŵy
  • 100g blawd 00
  • Pinsiad halen
  • Olew olewydd

I'r llenwad:

  • 20g menyn
  • 20g blawd
  • 170ml llaeth
  • 15 pupur du cyfan wedi malu
  • 50g caws pecorino

I'r saws:

  • tun tomatos bach
  • ½ winwnsyn gwyn
  • 2 ewin garlleg
  • halen
  • 1 llwy de mêl

Dull

I'r llenwad:

  1. Toddwch eich menyn mewn sosban ac ychwanegu'r blawd i greu roux.
  2. Ychwanegwch y llaeth gan gadw i droi/chwisgio i gael cymysgedd llyfn ac yna troi'r gwres lawr.
  3. Gratiwch eich pecorino mewn i'r hylif – fe wnaiff y gymysgedd dewhau wrth oeri.
  4. Tostiwch eich pupur du cyfan mewn padell ffrio ac yna eu malu gyda phestl a mortar cyn ychwanegu i'r saws caws.
  5. Rhowch yn yr oergell i dewhau nes eich bod yn barod i lenwi eich pasta.

I'r pasta:

  1. Craciwch un melyn ŵy a dau ŵy cyfan a'u cyfuno gyda'r blawd, halen ac olew olewydd mewn cymysgydd bwyd gyda bachyn toes.
  2. Unwaith ei fod mewn pelen o does, rhowch ar arwyneb gwastad â blawd arno a'i weithio a'i dylino nes y gallwch roi bawd ynddo a'i fod yn bownsio'n ôl.
  3. Rhowch y toes pasta yn yr oergell am 4-5 awr.
  4. Nawr gallwch chi roi'r pasta mewn peiriant pasta gan ddechrau gydag ef mewn siâp hirsgwar fflat.
  5. Dechreuwch ar osodiad mwyaf trwchus y peiriant 1 a gweithio i lawr i'r gosodiad teneuach 6 (Mae peiriannau'n amrywio)
  6. Rhowch y pasta ar arwyneb mawr â blawd arno ychwanegu llwyaid o lenwad ynghyd â digon o le o gwmpas. Rhowch y pasta drosodd a chwpanwch y llenwad i dynnu'r aer. Torrwch nhw gyda thorrwr fel pasteiod bach, rhowch y llenwad ar eu gwaelod a phinsiwch gyda'i gilydd. Mae'n bwysig i'r pasta allu eistedd yn syth ar y gwaelod er mwyn cyflwyniad.

I'r saws:

  1. Torrwch y winwns a'r garlleg a'i ffrio yn ysgafn. Ychwanegwch y tun tomatos bach. Gadewch i goginio nes bod y saws wedi tewhau.
  2. Unwaith ma'r saws wedi tewhau, blitziwch y saws gyda phrosesydd llaw ac yna ychwanegu ychydig o fêl a halen i flasu.

I'w gweini:

  1. Berwch siapiau pasta mewn dŵr berw am 3 munud.
  2. Gweinwch gyda saws ar waelod y plât ac yna parmesan wedi'i gratio ar ei ben ac efallai ychydig o ddail basil wedi'u ffrio neu ffres i gael lliw ychwanegol a chrensh.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?