S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Panna cotta

Cynhwysion

  • 150ml hufen dwbl
  • 150ml llaeth cneuen goco
  • 1 codyn fanila
  • 120g siwgr caster
  • 2 ddeilen gelatine

I'r coulis:

  • ychydig ddarnau mango
  • 1 llwy fwrdd fawr (heaped) siwgr eisin
  • mintys a darnau cnau coco sych i addurno
  • darnau bach mango mewn sgwariau bach i arddurno

Dull

  1. Leiniwch eich tuniau panna cotta gydag olew cneuen goco
  2. Rhowch eich siwgr, hufen a fanila mewn sosban a'i dwymo, cadwch i droi nes bod y siwgr i gyd wedi toddi.
  3. Ychwanegwch y dail gelatin wedi eu meddalu mewn dŵr oer a chadw i fudferwi nes wedi toddi.
  4. Arllwyswch mewn i'r tuniau ac wedyn rhoi yn yr oergell am 5 awr i setio neu dros nos.
  5. Tynnwch y mowldiau allan o'r oergell, cynheswch ychydig o ddŵr poeth, ysgwyddwch i'w lacio ac yna dal ychydig uwchben plât a gadewch iddo ddisgyn i'r plât.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?