Saws brwyniad ar gyfer cig oen
Cynhwysion
- 200ml llaeth
- 50ml hufen
- 210ml dŵr
- 80g garlleg
- 15-20 brwyniad
- 1 llwy fwrdd finegr seidr
- 1 llwy fwrdd sudd lemwn
- 30ml olew olewydd
- 2 lwy fwrdd dŵr
- pinsiad o halen
Dull
- Rhowch yr hylif a'r garlleg mewn sosban a dod ag ef bron i'r berw.
- Mudferwch nes bod yr hylif i gyd bron ag anweddu.
- Blendiwch mewn prosesydd bwyd gyda'r 15 brwyniad, ychydig finegr seidr a sudd lemwn. Arllwyswch yr olew olewydd i mewn nes ei fod wedi emylsio.
- Ychwanegwch ddŵr nes bod y gymysgedd yn ddigon hylifog i arllwys a sesnwch i flasu.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Instagram: @colleen_ramsey
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.
Please consider the environment before printing.